Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg
Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (Basgeg: Euskal Autonomi Erkidegoa, Sbaeneg: Comunidad Autónoma del País Vasco) yw'r gymuned ymreolaethol sy'n cynnwys tair talaith fwyaf gorllewinol y rhan o Wlad y Basg sydd o fewn ffiniau Sbaen. Cyfeirir ati hefyd fel Euskadi mewn Basgeg, term a ddefnyddid yn wreiddiol am y cyfan o Wlad y Basg, ond a ddefnyddir fel rheol bellach fel enw am Gymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae'n gyfrifol am Etxepare Euskal Institutua (Sefydliad Etxepare Gwlad y Basg) corff er hyrwyddo diwylliant Basgeg yn fyd-eang.
Euskal Herria Euskal Autonomi Erkidegoa | |
Math | Gwlad |
---|---|
Prifddinas | Vitoria-Gasteiz |
Poblogaeth | 2,213,993 |
Anthem | Eusko Abendaren Ereserkia, Gernikako Arbola |
Pennaeth llywodraeth | Iñigo Urkullu Renteria |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Basgeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Gwlad y Basg |
Sir | Sbaen |
Gwlad | Sbaen |
Arwynebedd | 7,234 km² |
Uwch y môr | 876 metr |
Gerllaw | Môr Cantabria |
Yn ffinio gyda | Nafarroa Garaia, La Rioja, Cantabria, Castilla y León, Nouvelle-Aquitaine |
Cyfesurynnau | 43°N 2.75°W |
ES-PV | |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Lehendakari |
Pennaeth y Llywodraeth | Iñigo Urkullu Renteria |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.924 |
Mae'r diriogaeth yn fynyddig, gyda mynyddoedd y Pyreneau a mynyddoedd Cantabria. Mae llawer o ddiwydiant yno, ac mae'n un o'r rhannau cyfoethocaf o Sbaen. Rhennir yr Euskal Autonomi Erkidegoa yn dair talaith:
- Araba (Álava). Prifddinas: Vitoria-Gasteiz
- Gipuzkoa (Guipúzcoa). Prifddinas: San Sebastián (Donostia)
- Bizkaia (Vizcaya). Prifddinas: Bilbo (Bilbo neu Bilbao mewn Basgeg))
Ceir mudiad ymreolaethol cryf yma.
Prif ddinasoedd
golygu- Bilbo (354,145)
- Vitoria-Gasteiz (226,490)
- Donostia (Sbaeneg: San Sebastian) (183,308)
- Barakaldo (95,675)
- Getxo (83,000)
- Irun (59,557)
- Portugalete (51,066)
- Santurce (47,320)
- Basauri (45,045)
- Errenteria (38,397)
Gwleidyddiaeth
golyguSefydlwyd y Gymuned fel endid wleidyddol yn dilyn refferendwm dros Statud Ymreolaeth Gwlad y Basg 1979 lle pleidleiswyd yn drwm dros greu Senedd Euskadi. Y bwriad wreiddiol oedd cynnwys Nafarroa yn rhan o'r senedd, ond bu rhwyg a sefydlwyd senedd gyda grymoedd tebyg ar gyfer talaith Nafarroa. Ers ei sefydlu mae Plaid Genedlaethol Gwlad y Basg - EAJ-PNV - wedi bod yn brif blaid yn y senedd yn ddi-dor.
Andalucía ·
Aragón ·
Asturias ·
Cantabria ·
Castilla-La Mancha ·
Castilla y León ·
Catalwnia ·
Extremadura ·
Galisia ·
Gwlad y Basg ·
Madrid ·
Murcia ·
Navarra ·
La Rioja ·
Valenciana ·
Ynysoedd Balearig ·
Yr Ynysoedd Dedwydd ·
Dinasoedd ymreolaethol
Ceuta ·
Melilla