Sgwrs:Cynghrair Cymru Gogledd

Add topic
Active discussions

Ad-drefnu/ailenwi haen 2Golygu

Tra dwi'n cytuno mai mond ailenwi sydd wedi digwydd i'r gynghrair ac mai'r peth hawsaf yw ailenwi'r erthygl, un problem rŵan ydi bod yna ddwy erthygl wahanol ar y wiki Saesneg (ac eraill?), sef en:Cymru_North a en:Cymru Alliance, felly rŵan mae gan yr erthygl hon ddolen rhyngwici at Cymru Alliance, ond does gan yr erthygl Saesneg 'Cymru North' ddim erthygl gyfatebol i fod a dolen rhyngwici ati. Dwi ddim yn dallt y dalltins yn iawn, ond gall hyn effeithio Wikidata (a falle ddim, a sdim rheswm bod ni'n dilyn wicis eraill yn slafaidd). Hefyd, ar gyfer y drefn yn y de, mae gyda ni rŵan hefyd erthyglau ar wahân ar gyfer cy:Cymru South a cy:Cynghrair Cymru (Y De). Yn ôl fy arfer, dwi ddim yn cynnig datrysiad, jyst nodi problemau! Felly mae dau beth:

  1. Cysondeb enwau: (Cymru North/South fel y Saesneg neu Cynghrair Cymru Gogledd/De), sydd ddim yn llawer o broblem, a
  2. Cysondeb ffurf yr erthyglau. O ran taclusrwydd, efallai mai copïo'r Saesneg sydd orau?

--Rhyswynne (sgwrs) 20:26, 17 Awst 2019 (UTC)

Nôl i'r dudalen "Cynghrair Cymru Gogledd".