Cymru South

adran lefel 2 system pyramid pêl-droed Cymru, sefydlwyd 2019 gan ddethol i'r Cynghair Cymru (Y De)

Mae Cymru South[1] yn gynghrair rhanbarthol pêl-droed sy'n ffurfio un hanner o Bencampwriaeth Cymru ("Champtionship Cymru"). Mae gan ei chlybiau statws rhan-broffesiynnol a dyma ail haen system byramid cynghreiriau Cymru. Blwyddyn gyntaf ei bodolaeth yw tymor 2019-20 lle mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru nawr yn berchen ac yn gweinyddu'r ail lefel am y tro cyntaf. Daw'r newidiadau yma yn sgil adolygiad o system Byramid Pêl-droed Cymru.[2]

Cymru South
Gwlad Cymru (16 tîm)
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd2019
Lefel ar byramid2
Dyrchafiad iCymru Premier
Disgyn iCynghrair 1 CBDC
CwpanauCwpan Cynghrair Cymru
Cwpan Cymru
2019–20

Cyn 2019, y lîg gyfatebol oedd Cynghrair Cymru (Y De) oedd yn gyfrifol am ddeheubarth Cymru. Yn y Gogledd a Chanolbarth mae adran gyfatebol, sef Cynghrair Undebol. Mae'r hen Cynghrair Cymru (Y De) yn cael ei chadw ond yn symud lawr i 3ydd lefel system byramid newydd pêl-droed Cymru. Daeth y rhan fwayf o aelodau o'r adran Cymru South newydd o rengoedd timau'r hen Cynghrair Cymru (Y De).

Clybiau tymor 2019–20 golygu

Ymgeisiodd 52 tîm am gymwyster Lefel 2.[3] Gan ddibynnu ar ddyfarniad CBDC, disgwylir i'r 16 clwb yma fod yn aelodau o'r adran newydd:

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2020-01-25. Cyrchwyd 2019-08-15.
  2. faw.cymru; adalwyd 16 Awst 2019.
  3. https://clwbpeldroed.org/2019/01/10/fifty-two-faw-championship-tier-two/
  4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 4.14 "FAW Tier 2 First Instance Body Decision - 43 Clubs Successful". Football Association of Wales. 8 Mai 2019.
  5. "FAW Tier 2 appeals body decisions". Football Association of Wales. 22 Mai 2019.
  6. https://clwbpeldroed.org/2019/05/22/port-talbot-town-faw-championship/