Cynghrair Cymru (Y De)
Cynghrair Bêl-droed Cymru sydd, am resymau nawdd, yn cael ei hadnabod fel Cynghrair Bêl-droed Cymru NathanielCars.co.uk (Saesneg: NathanielCars.co.uk Welsh Football League) oedd prif gynghrair pêl-droed de Cymru. Mae'r gynghrair yn ffurfio'r drydydd rheng Pyramid pêl-droed Cymru ac yn bwydo Cymru South sydd yna'n bwydo Uwch Gynghrair Cymru.
Gwlad | Cymru |
---|---|
Sefydlwyd | 1904 |
Daeth i ben | 2019 |
Nifer o dimau | 16 |
Lefel ar byramid | 1 (1904–1992) 2 (1992–2019) 3 (2019–) |
Dyrchafiad i | Cymru South (Pencampwriaeth CBDC) |
Disgyn i | Welsh Football League Division Two |
Cwpanau | Cwpan Cymru Cwpan Cynghrair Cymru |
Gwefan | The Welsh Football League |
2019–20 Welsh League Division One |
Ad-drefn - sefydlu Cymru South
golyguO dymor 2019/20 ymlaen, yn sgil ad-drefnu i system byramid cyngheiriau Cymru newidiwyd y Gynghrair Undebol gan Bencampwriaeth De CBDC dan y brand newydd, Cymru South sy'n cynnwys y rhan fwyaf o dimau Cynghrair Cymru (Y De). Mae Cynghrair Cymru (Y De) yn cadw ei hunaniaeth ond bellach yn 3ydd lefel pyramid pêl-droed Cymru.[1][2]
Tiriogaeth a Threfniadaeth
golyguMae tair adran yng Nghynghrair Cymru (Y De) ar gyfer timau pêl-droed siroedd Gwent, Morgannwg, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Brycheiniog. Yn ogystal â'r dair brif adran mae'r Gynghrair yn trefnu adran i Ail dimau ac i dimau Ieuenctid.
Hanes
golyguYm mis Ebrill 1904 cyhoeddodd papur newydd y Merthyr Express y byddai Cynghrair Cwm Rhymni yn cael ei sefydlu ar gyfer tymor 1904-05 i redeg ochr yn ochr â Chynghrair De Cymru[3] oedd wedi ei sefydlu ym 1891[4]. Gyda 25 o glybiau yn ymaelodi cafwyd tair adran gydag Athletig Aberdâr yn sicrhau'r bencampwriaeth cyntaf.[3]. Ym 1909 cafodd y Gynghrair ei henwi'n Cynghrair Bêl-droed Morgannwg cyn dod yn Gynghrair Bêl-droed Cymru ym 1912.
Mae'r gynghrair wedi newid ei henw sawl gwaith gan gynnwys y Premier Division a National Division.
Yn 1992, yn dilyn sefydlu Cynghrair Bêl-droed Cymru, daeth y gynghrair yn swyddogol yn ail lefel i'r gynghrair genedlaethol yn system byramid CBD Cymru. Dim ond un lîg genedlaethol sydd gan Gymru mewn pêl-droed.[5]
Pencampwyr Adran 1 Cynghrair Cymru y De
golyguTymor | Enillydd |
---|---|
C.P.D. Ton Pentre | |
C.P.D. Tref Y Barri | |
Briton Ferry Athletic | |
C.P.D. Tref Caerfyrddin | |
C.P.D. Sir Hwlffordd | |
C.P.D. Ton Pentre | |
C.P.D. Ton Pentre | |
C.P.D. Ton Pentre | |
C.P.D. Ton Pentre | |
C.P.D. Ton Pentre | |
Bettws | |
C.P.D. Llanelli | |
C.P.D. Ton Pentre | |
Goytre United | |
Neath Athletic | |
Goytre United | |
C.P.D. Aberdâr | |
Goytre United | |
Bryntirion Athletic | |
Cambrian & Clydach | |
West End | |
Monmouth Town | |
C.P.D. Caerau (Trelái) | |
C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd | |
C.P.D. Tref Y Barri | |
C.P.D. Llanelli | |
C.P.D. Pen-y-bont |
Tymor Cyfredol
golyguCynghrair Cymru (Y De), 2018-19 | ||
---|---|---|
Cambrian a Clydach | Celtic Cwmbrân | Cwmaman | Ffynnon Taf | Goytre | Goytre Unedig | Gwndy | Hwlffordd | Lido Afan | Llanilltyd Fawr | Llansawel | Pen-y-bont | Tref Pontypridd | Port Talbot | Rhydaman | Ton Pentre | |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.faw.cymru/cy/news/croeso-i-gymru/?back=/cy/&pos=8
- ↑ https://clwbpeldroed.org/2018/11/28/football-association-wales-restructuring-pyramid/
- ↑ 3.0 3.1 "Welsh Football League: History". Welsh Football Data Archive.
- ↑ "South Wales League: History". Welsh Football Data Archive.
- ↑ https://www.wpl.cymru/news/Welsh-Premier-League-Review/84462/