Sgwrs:Cytiau Gwyddelod

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Mae'r termau Cymraeg yn yr adran Terminoleg i gyd yn dod o eiriadur Bruce ar wahan i: Cylch cytiau caeëdig ac aneddog. Dyma fy ymgais tila i i gyfieithu term Cadw (ayb): Enclosed Hut Circle Settlement. Unrhyw awgrym gwell? Llywelyn2000 05:45, 20 Tachwedd 2010 (UTC)Ateb

Dwi'n methu gweld y gwahaniaeth rhwng Enclosed Hut Circle Settlement ac Enclosed Hut Circle. Aneddiadau oedd y ddau, wedi'r cwbl. Ydy Cadw yn diffinio'r gwahaniaeth? Ai at un cwt, sef cylch sy'n amgae un aneddiad yn unig, y mae'r ail derm yn cyfeirio, tybed? Mae dy fathiad "Cylch cytiau caeëdig ac aneddog" yn swnio'n chwithig braidd. Cytiau at ba bwrpas os nad yn aneddiadau? Anatiomaros 01:13, 21 Tachwedd 2010 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn meddwl mai aneddiad oedd y ddau, Anat, yn aml, fe ddefnyddiwyd y cytiau i gadw grawnfwydydd ayb. Ydy mae'r bathiad yn chwithig a dyna pam wnes i ofyn am awgrymiadau. Ond os nad oes awgrym gwell yna mae cadw at dermau Cadw yn bwysig neu mi eith popeth ar chwal! Mae English Heritage wedi creu safle yn diffinio'r termau mae nhw'n ei ddefnyddio, fel bod pawb yn canu o'r un llyfr. Ysywaeth, mae Cadw 1. yn canu o lyfr gwahanol i ni, mewn iaith wahanol a 2. yn canu allan o diwn! Llywelyn2000 06:25, 21 Tachwedd 2010 (UTC)Ateb
Ia, a dyna broblem fawr gyda rhai o'r termau archaeoleg hyn. Ceir termau amgen symlach hefyd, fel "enclosed settlement" a "hut enclosure"; un arall yw "enclosed hut-group". Gwir y dywedi am eu defnydd, sy'n amwys yn aml ar ben hynny (llawer heb eu cloddio'n fanwl eto).
Gyda llaw, gymri di gipolwg ar Sgwrs:Clwstwr cytiau, o.g.dd? Mae'n hwyr las heno ond mae angen sortio hynny allan hefyd. Anatiomaros 00:51, 22 Tachwedd 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Cytiau Gwyddelod".