Cytiau Gwyddelod

cytiau hynafol

Cytiau Gwyddelod yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y cytiau crwn cynhanesyddol sydd i'w gweld yma ac acw ar fryniau Cymru.

Cytiau Gwyddelod
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Mae'r enw yn gamarweiniol am nad oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhyngddynt â'r Gwyddelod yn benodol. Ar adegau yn y gorffennol ymsefydlai llwythi Gwyddelig yng ngorllewin Cymru o bryd i'w gilydd, a diau fod y cof am hynny'n esbonio'r enw poblogaidd ar yr olion archaeolegol hyn.

Mae'r cytiau fel rheol yn perthyn i Oes yr Efydd, Oes yr Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Mae cannoedd o enghreifftiau i'w gweld yn y caeau a'r bryniau, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, o Ynys Môn i Sir Benfro.

Un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw'r cytiau ar Fynydd Twr ger Caergybi, a elwir hefyd yn Gytiau Tŷ Mawr.

Terminoleg golygu

  • Cwt crwn (lluosog: cytiau crynion); (Saesneg: circular hut)
  • Cylch cytiau (neu Cytiau'r Gwyddelod); (lluosog: cylchoedd cytiau); (Saesneg: hut circle)
  • Clwstwr cytiau (lluosog:clystyrau cytiau); (Saesneg: hut group)
  • Anheddiad cytiau (lluosog: aneddiadau cytiau); (Saesneg: hut settlement)[1]
  • Cylch cytiau caeedig ac aneddog (Saesneg: Enclosed Hut Circle Settlement)
  • Cylch cytiau caeedig (lluosog: cylchoedd cytiau caeedig); (Saesneg: enclosed hut circle)

Cyfeiriadau golygu

  1. [Geiriadur yr Academi, Golgyddion: Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones; Gwasg prifysgol Cymru]