Sgwrs:Enwau llefydd yn Lloegr sydd o darddiad Brythonig / Celtaidd

Sylw diweddaraf: 11 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Ffynhonnell dda, safonol


Untitled

golygu

Enwau llefydd yn Lloegr sydd o darddiad Brythonig / Celtaidd yw teitl yr erthygl hon -- ac wedyn cyflwynir hanes o ddamcaniaeth ddadleuol iawn sy'n awgrymau NAD yw'r enwau hyn o darddiad Brythonig!

Nid heb ddiddordeb yw'r theori ei hunan, ond mae camgyfatebiaeth nodedig (a chamarweiniol, byddwn i'n dweud) rhwng teitl presennol y darn a'i gynnwys. -- Jac-y-do 11:33, 1 Ionawr 2012 (UTC)Ateb

M, mi ro'n i'n ymwybodol o'r diffyg teitl / cynnwys wrth ei sgwennu, ond doedd gen i ddim amser i'w wella. Dros y Dolig dw i newydd ddarllen 'The origins of the British' gan Stephen Oppenheimer a dw i am ddangos fel mae yntau'n seilio talp enfawr o'i ddadl ar yr enwau hyn. Tabl efallai fyddai orau. Efallai y byddai dwy erthygl yn well? Ond mae gwyntyllu dadleuon eraill y gwrth-Geltiaid yn bwysig hefyd e.e. diffyg cerrig gydag ysgrifen Frythonig yn ne-ddwyrain Lloegr, lleoliad canfod arian Celtaidd (de-ddwyrain Lloegr yn unig) - dim yng ngweddill gwledydd Prydain ayb ayb. Amser sydd ei angen myn Twtatis! Llywelyn2000 11:48, 1 Ionawr 2012 (UTC)Ateb
Newydd dod ar draws hyn rwan. Dwi'n credu mai rhestr syml o enwau lleoedd gyda nodiadau am eu hystyr a'u tarddiad dylai hyn fod; gellid creu tudalen arall (gyda dolen yma) am y dadleuwyr gwrth-Geltaidd. Anatiomaros (sgwrs) 21:43, 24 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Y tristwch ydy fod y syniadau estron hyn wedi treiddio i fewn i feddylfryd Cymreig, bellach; ee prin iawn yw'r cyfeiriad i'r "Celt" a'r "Celtiaid" yn arddangosfa sy'n cynnwys arteffactau pwysicaf Cymru yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae nhw'n cyflwyno'r ddadl yno nad oes y fath beth yn bodoli! ac mae casgliad o bobl ar wahan oeddynt. I greu rhestr o enwau llefydd yn Lloegr sydd o darddiad Brythonig / Celtaidd mae'n rhaid cael cyfeiriadaeth gyfoes ddibynadwy. Unrhyw syniadau am ffynhonell? Llywelyn2000 (sgwrs) 05:54, 25 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Yn anffodus mae'r rhan fwyaf o fy llyfrau ar y pwnc wedi dyddio erbyn hyn. Ond dwi ddim yn gweld problem os nodir bod anghytundeb am darddiad rhai o'r enwau. Rwyt ti'n iawn, mae gwrth-Geltigrwydd yn rhemp y dyddiau hyn ac er bod bai ar rai o'r 'Celtigwyr' gor-ramantus am roi ammo i'r gelyn fel petae, mae'n drist fod cymaint o Gymry wedi llyncu'r abwyd heb ystyried cymhellion y Saeson (siwr o fod!) sy'n dadlau fel hyn. Anatiomaros (sgwrs) 22:34, 25 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Beth am ei newid i "Yr ymdrech Seisnig i beidio a derbyn fod y fath beth a "Chelt" yn bod?" ! Llywelyn2000 (sgwrs) 05:52, 26 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
'Yr ymdrech Seisnig i ddad-Geltigio hanes'? Rhaid bod nhw'n hoff o'r boi 'na ar Timewatch sy'n mynd i ecstasi wrth glywed y gair Anglo-Saxon (byth a beunydd!) ond sy byth yn sôn am y Celtiaid (dim ond fel "Iron Age inhabitants of Britain")! Anatiomaros (sgwrs) 20:54, 26 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Ffynhonnell dda, safonol

golygu

Gweler: Gwefan Prosiect 'Place-Names of Shropshire'. Dyma damed i aros pryd:

We will devote a substantial volume to the two hundreds of Clun, in the south-west, and Oswestry, in the north-west, where the Welsh language has contributed extensively to local toponymy. Here there are dozens of Welsh-named villages and hamlets, such as Bettws-y-Crwyn, Llanvair Waterdine, Llanymynech, Trefarclawdd and Argoed; and there are many hundreds of houses and fields with names like Rhyd y Cwm, Pencraig, The Maes and Vron. The first aim of the volume will be to document historic spellings for all place-names in the area, from towns and villages to the least of enclosures, woods, streams and streets. Many of these will be English, many Welsh, and many will illustrate the interface, and sometimes interplay, between the languages. Our second aim is to explain the linguistic origins, the meaning, of the names, as far as possible.

- Llywelyn2000 (sgwrs) 18:51, 4 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Tarddiadau Iseldireg "Proto-Saesneg" o enwau yng Nghaint

golygu

Does neb yn cymryd y tarddiadau Germaneg o'r enwau megis Dover a Thanet o ddyfri. Maen nhw wedi cael eu hybu gan genedlaetholwyr Saesneg y mae'n well gannddynt credu bod dim Brythoniaid yn Ne Lloegr ac bod y Saeson wedi bod yno eisoes. Mae'n anghredadwy bod rhywun yn meddwl eu bod yn gallu esboni hen enwau trwy gyfeirio at Iseldireg gyfoes, fel petai'r enwau wedi bathu gan bobl o Amsterdam llynnedd. Dylid eu dileu.

Nôl i'r dudalen "Enwau llefydd yn Lloegr sydd o darddiad Brythonig / Celtaidd".