Sgwrs:Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Llewpart in topic Di-deitl

Di-deitl golygu

Onid Heol Y Frenhines, Caerdydd sy'n gywir? Llywelyn2000 20:01, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Mae'n swnio'n goblyn o chiwthig, ond dw i'n meddwl mai dyma ydy'r enw cywir. Dyna sydd ar wefan Arriva (nid bod hynny'n golygu lot!) a wele y llun yma.--Ben Bore 20:32, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Bois bach! Llywelyn2000 20:39, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Os hwn ydy'r enw swyddogol gan Arriva a'r lleill mae angen saethu rhywun! (A minnau'n heddychwr fel rheol...). Enw hollol hollol hurt! Anatiomaros 21:19, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
ON Ceir sawl enghraifft o 'Gorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd' ar y we, e.e. gan y Cynulliad. Does dim rhaid i ni dderbyn Cymraeg wallus Arriva. Anatiomaros 21:26, 19 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Dw i ddim yn gwybod os yw hyn yn helpu, ond yn hytrach na meddwl am enghreifftiau Cymru, mae gorsaf ym Mryste or enw Bristol Temple Meads (ac nid Temple Meads, Bristol). Ydy o'n bolisi efallai mae enw'r dref/ddins sydd wastad yn dod gyntaf mewn enw gorsaf sgwn i?--Ben Bore 08:11, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Yn Saesneg dyna ydy'r arfer, ond mae'n swnio'n chwerthinllyd yn Gymraeg (cyfieithiad: "Queen Street's Cardiff!"). Ar ben hynny mae'r enw hurt yma ar ein "tudalen flaen" i bawb ei weld. Dwi'n cynnig symud hyn i 'Gorsaf [neu 'Gorsaf reilffordd'] Heol y Frenhines, Caerdydd'. Anatiomaros 14:28, 20 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Dw i'n cytuno. Mae'r enw'n swnio'n ofnadwy ar hyn o bryd. Mae Gwefan y Parciau Cenedlaethol[1], y Gwasanaeth Apelio (?) [2], yr Eglwys Norwyaidd [3], Bwrdd Croeso Cymru [4], Llyfrgell Genedlaethol Cymru [5], Neuadd Dewi Sant [6] a Llywodraeth y Cynulliad yn cyfeirio ato fel "Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd". Dw i ddim yn meddwl y dylen ni ddibynnu ar gyfieithu gwael un neu ddau sefydliad pan fo cynifer o sefydliadau cydnabyddedig yn defnyddio "Heol y Frenhines Caerdydd." Pwyll 13:10, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Ti fuost brysur a manwl dy waith, gyfaill. Mae'r dystiolaeth i gyd o blaid Heol y Frenhines, Caerdydd. Ychwanegais atalnod, gan nad "brenhines Caerdydd mohoni"! Llywelyn2000 14:44, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Gai awgrymu symud hyn eto i 'Gorsaf...' gan fod stryd o'r un enw? Anatiomaros 14:48, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Wrth gwrs, gyfaill. Llywelyn2000 15:08, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Diolch, Llywelyn! Anatiomaros 15:12, 24 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Gai awgrymu adio'r gair reilffordd at teitl yr erthygl yma? Dw i wedi cyfeirio at yr Wici Saesneg am gweddill yr erthyglau dw i ar hyn o bryd yn gweithio ar sydd yn defnyddio'r term Gorsaf reilffordd Tref Engreifftiol, a hefyd ella yr un peth am Caerdydd Canolog? Diolch. Llewpart 20:44, 2 Hydref 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Caerdydd".