Sgwrs:Hawaieg
Sylw diweddaraf: blwyddyn yn ôl gan Adda'r Yw ym mhwnc Didolnod diangen
Didolnod diangen
golyguCredu bod y didolnod yn ddiangen yma.
Mae rhaid ei gadw ar Hawäi os am gael yr ynganiad [haˈwa(ˑ).i] (sy'n dod o'r Saesneg [hə.ˈwaɪ.iː]) yn hytrach na Hawai [ˈhawai / ˈhawaj].
Ond, wrth ychwanegu'r terfyniad fe gewch chi Hawäieg [haˈwa.jɛg] nad yw'n ymarferol wahanol i Hawaieg [haˈwaiɛg / haˈwajɛg]. Does dim eisiau'r didolnod yma gan nad oes eisiau ynganu ffurf lafarog lawn yr i ar wahân fel yn Hawäi.
Rwy'n gwybod bod y ffurf â'r didolnod yng Ngeiriadur yr Academi, ond mae sawl peth yn hen yn hwnna erbyn hyn, e.e. Tsieinëeg, cynorthwy-ydd ac ati.
Byddai hyn yn berthnasol yn y ffurfiau Hawäiad, Hawäiaid, Hawäiaidd > Hawaiad, Hawaiaid, Hawaiaidd hefyd.
Llusiduonbach (sgwrs) 20:38, 22 Ebrill 2014 (UTC)
- Cytuno. Wedi symud. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:26, 5 Rhagfyr 2023 (UTC)