Sgwrs:Hen enwau Cymraeg am yr elfennau

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic "Hen enwau"

"Hen enwau" golygu

Dwi ddim yn siwr fod hyn yn gwneud llawer o synnwyr fel y mae ar hyn o bryd. Y bennod ar gyfer ail golofn y tabl yw "Hen enw [o'r Chambers]". Dwi'n derbyn mai at y geiriadur Saesneg Chambers Dictionary y mae hynny'n cyfeirio, ond go brin fod y geiriadur hwnnw yn cynnwys enwau Cymraeg, hen neu'n ddiweddar? Yn ail, pa mor "hen" ydy'r mwyafrif o'r geiriau hyn mewn gwirionedd? Mae'r un cyntaf, "ulai", yn un o'r miloedd o eiriau a fathwyd gan William Owen Pughe ar ddechrau'r 19eg ganrif, er enghraifft. Mae rhai o'r geiriau hynny wedi hen ennill eu plwyf, e.e. 'cylchgrawn', ond cael eu hanwybyddu ar unwaith bron fu tynged y rhan fwyaf ohonynt (gweler geiriadur anhygoel Pughe druan!). Dwi'n awgrymu gwahaniaethu rhwng enwau gwirioneddol hynafol ac o dras anrhydeddus, e.e. 'arian byw', a geiriau bath byrhoedlog fel rhai Pughe. Dylem nodi'r enghreifftiau cynharaf a rhoi ffynhonnell. Buaswn yn awgrymu rhoi geiriau Pughe a'u tebyg yn y drydedd golofn. Ydy hynny'n gwneud synnwyr? Anatiomaros 20:59, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

ON Mae'r "enwau newydd" yn cynnwys 'haearn', gyda 'haiarn' yn cael ei nodi fel yr "hen enw". Mater o orgraff yn unig ydy hynny : wrth reswm mae'r gair 'haearn' yn un o'r rhai hynaf yn y Gymraeg! Anatiomaros 21:05, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb

Ydy'r erthygl ar ei hyn yn haeddu lle ar Wicipedia? Efallai gallem ni ei chynnwys yn Tabl cyfnodol? (Dwi ddim wedi darllen yr holl dabl, felly nad wy'n siŵr os mai elfennau fel y maent yn y tabl cyfnodol ydynt, ond efallai bod 'na le arall i'w chynnwys?) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:28, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Dwi ddim yn siwr beth i'w wneud efo fo. Mae'n dipyn o smonach (a be ydy ystyr y ddwy seren ** ar ôl rhai geiriau yn y golofn olaf i fod?). Anatiomaros 21:43, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Yn union. Dwn i'm beth yw ystyr y sêr ychwaith! Gan fod nhw yn elfennau, beth am drosglwyddo'r tabl cyfredol i adran yn Tabl cyfnodol? Mae grid gwell yn rhywle hefyd! -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 21:57, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Syniad da. Does dim brys arbennig, mae'n debyg. Fel dwi'n deud uchod, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig gwahaniaethu rhwng yr ychydig enwau gwirioneddol hynafol a'r geiriau "hen" a fathwyd yn y 19eg ganrif ac a ddefnyddwyd (neu anwybyddwyd!) gan rai am gyfnod. Efallai cawn farn cyfranwyr eraill yn y maes, fel Llywelyn ac Ysgol Dinas Brân? Anatiomaros 22:20, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Na, sdim. Arhosem am ychydig i weld y consensws, ond yn y cyfamser, gadawaf neges fer ar dudalen sgwrs y ddau :) -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 22:44, 16 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Dim probs. Llywelyn2000 22:50, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Hen enwau Cymraeg am yr elfennau".