Sgwrs:Hunanlosgi

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Enw

Enw

golygu

Adam, gyfaill. Os mai diwedd trwy losgi yn unig yw hwn, yna gwell, efallai, fyddai cadw at yr ail air sydd gen ti - hunanlosgi. Mae hunanaberthu'n golygu llawer mwy, fel y gwyddost ac yn llai arbenigol. Byddai'r ferf hunanaberthu'n well na hunanaberth hefyd, efallai. Beth am chydig o enghreifftiau megis Jan Palach o'r Wladwriaeth Tsiec? 06:44, 25 Tachwedd 2011‎ Llywelyn2000

Dwi'n cytuno â Llywelyn. Ifi, mae'r teitl fel y mae o ar hyn o bryd yn golygu "Self-sacrifice" fel enw. O ddarllen en, a fyddai "Hunan-aberthu" yn well, oherwydd mai dyma'r ffurf ferfol (sy'n disgrifio'r gweithred o wneud y peth - h.y., llosgi'ch hunan oherwydd rhesymau crefyddol) yn hytrach na'r enwol (sy'n disgrifio'r gweithred yn unig)? Ar en mae'n dweud, "The word "immolate" is used in the English language when denoting consumption by fire, whether autonomously or imposed." Does yr un gair yn bodoli yn y Gymraeg, ond am "aberthu" sydd hefyd yn golygu "sacrifice." Cyfieithiad Cysgeir, Geiriadur y Drindod, a'r BBC yn awgrymu "aberthu" ar gyfer "immolate." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 17:50, 25 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Mae'n debyg taw camddeall ystyr y gair Saesneg yn hytrach na'r gair Cymraeg oedd fy nghamgymeriad! I ddechrau fe dybiais taw "hunanlosgi" oedd y gair Cymraeg am self-immolate, ond edrychais mewn mwy nag un geiriadur i wirio a darganfyddais "hunanaberthu". Roeddwn i'n cymryd taw term Cymraeg safonol oedd hwn am losgi'ch hunain (ei ddiffiniad wedi ei gulhau at un math penodol o aberth dros amser?), oherwydd roeddwn yn meddwl taw unig ystyr immolate yn y Saesneg yw "rhoi ar dân". Ond o edrych ar y Wici Saesneg, hen ystyr immolate yw aberthu, cyn iddo gael ei ddefnyddio i ddisgrifio llosgi. Byddai'n symud yr erthygl at "hunanlosgi" 'te? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:37, 25 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
O blaid "Hunan-aberthu" neu "Hunan-losgi" dwi :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 20:53, 25 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Dw i newydd ddarllen yr erthygl ar en yn eitha trylwyr. Mae'r holl enghreifftiau'n ymwneud a llosgi; efallai y byddai hunanlosgi felly yn nes ati, yn gywirach term. Diolch eich dau. Llywelyn2000 22:11, 25 Tachwedd 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Hunanlosgi".