Sgwrs:Little Cockup
Sylw diweddaraf: 11 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000
Mae na lawer o enwau llefydd sy'n cynnwys rhan o'r corff (gweler hefyd Gropecunt Lane) a hynny yn Gymraeg a'r Saesneg - oes na ddigon i greu rhestr? Llywelyn2000 (sgwrs) 06:55, 19 Mehefin 2013 (UTC)
- Roeddwn i wedi anghofio'n lân am Gropecunt Lane tan rwan. Roedd 'na lwyth o rai tebyg ar wici en. - lle cefais hyd iddo - os cofiaf yn iawn.
- Pam lai? Does 'mond un broblem, sef pa ieithoedd i'w cynnwys. Os ydym ni fel wici Cymraeg am gynnwys enwau Saesneg bydd rhai yn dadlau fod lle i enwau amwys mewn ieithoedd eraill hefyd, cyn belled a'u bod yn ieithoedd gweddol gyfarwydd, e.e. Ffrangeg, Almaeneg. Gellid chwilio am enwau tramor sydd ag ystyr arall yn Gymraeg hefyd. Gallai fod yn brosiect difyr! Anatiomaros (sgwrs) 21:19, 19 Mehefin 2013 (UTC)
- Dwi wedi ychwanegu un arall (sefydlwyd gan y Cofis yn y Ffindir?). Anatiomaros (sgwrs) 22:54, 19 Mehefin 2013 (UTC)
- Ac mae Tickle Cock Bridge ar gael yn Lloegr! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 23:15, 19 Mehefin 2013 (UTC)
- Mae'n mynd o ddrwg i waeth! Anatiomaros (sgwrs) 23:29, 19 Mehefin 2013 (UTC)
...ac mae Bron (cymuned) yn Department Rhône ac Afon tinau yn Nepal! '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 23:40, 19 Mehefin 2013 (UTC)
Tart's Hill, ger Llannerch Banna yn Sir Wrecsam. Sgwn i a oes enw Cymraeg ar y pentref? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:55, 31 Gorffennaf 2013 (UTC)
- Fedra i ddim cael hyd i Tart's Hill ar y mapiau (e.e. atlas ffyrdd Collins), heb sôn am yr enw Cymraeg! Wyt ti'n siwr mai pentref ydy o? Sôn am enwau rhyfedd, beth am BAW a CACH?! Anatiomaros (sgwrs) 00:12, 1 Awst 2013 (UTC)
- Odi, glei! Heb gollnod: Tarts Hill. Hanmer, Whitchurch SY13 3DR ; fferm a llond dwrn o dai! Ac am y ddau arall gen ti, wel mam bach! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:08, 1 Awst 2013 (UTC)