Sgwrs:Lochnagar

Sylw diweddaraf: 13 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Ambell sylw

Ambell sylw

golygu

Diolch Llywelyn. Mae gen i ambell sylw a chwestiwn cyn i ti gychwyn ar hyn.

Yn gyntaf, ai 'Lochnagar - Cac Carn Beag' ydy'r enw fel y cyfryw? Mae Cac Carn Beag yn un o gopaon mynydd Lochnagar: efallai ei fod yn cael ei nodi fel 'Lochnagar - Cac Carn Beag' ar rai rhestrau er mwyn hwylustod ond Cac Carn Beag ydy'r enw (gweler y map yn Adran 7 y Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)). Sut mae'r rhestr(au) rwyt ti'n defnyddio yn enwi copaon yr Wyddfa, er enghraifft? Yn amlwg byddai 'Yr Wyddfa - Crib Goch' ac 'Yr Wyddfa - Y Lliwedd' yn wirion. Hefyd, byddem mewn perygl fel hyn o gael erthyglau am hanner dwsin o gopaon sy'n rhan o'r un mynydd ond heb gael erthygl ar y mynydd ei hun.

I osgoi cael categori gwirioneddol anferth bydd angen i ni greu is-gategoriau yn ôl ardal llywodraeth leol yn yr Alban, fel sydd gennym am Gymru, e.e. Categori:Mynyddoedd a bryniau Ucheldiroedd yr Alban (dwi ddim yn siwr bod gennym ni gategoriau ar gyfer pob ardal yn yr Alban eto, hyd yn oed!). Un peth dwi ddim isio gwneud ydy mynd trwy rhai miloedd o erthyglau i gywiro/ychwanegu categoriau - basa'n dasg anobeithiol!

Dwi ddim isio swnio'n negyddol achos dwi'n gwethfawrogi'r gwaith rwyt ti'n gwneud ar hyn, ac yn wir mae'n syniad ardderchog, ond gan ein bod yn sôn am rai miloedd o erthyglau rhaid i ni gael pethau'n iawn o'r cychwyn cyntaf neu byddem yn greu mynydd o waith ychwanegol, diangen. Anatiomaros 17:26, 19 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Dwi newydd cael cipolwg ar y categoriau daearyddiaeth yr Alban ar en. Yffach, mae'n gymhleth! Anatiomaros 17:37, 19 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Gweler hefyd: en:Category:Scottish peaks by listing (defnyddiol iawn). Anatiomaros 17:41, 19 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

Mae'r map OS yn ei ddangos fel Lochnagar - Cac Carn Beag, er wn i ddim pam. Mae Cac Carn Mor ychydig i'r de, yn cael ei ddangos heb "Lochnagar" o'i flaen. Porius1 18:19, 19 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Enw diddorol gyda llaw. "Cac" = "Cachu" yn Gymraeg. "Carn" yr un fath, "Beag" = "Bychan" Porius1
Diolch Porius. Roeddwn i'n gwybod ystyr carn a beag, ond cac...! Mae'r mapiau OS yn anghyson felly. Yn bersonol dwi ddim yn gweld bod 'Lochnagar - Cac Carn Beag' yn gwneud synnwyr. Mae gan yr anglopedia 'Cac Càrn Beag' fel ailgyfeiriad i Lochnagar. Beth am y cwestiwn mawr arall yma y soniais amdano uchod, sef y ffaith bod nifer o'r copaon hyn yn is-gopaon mynyddoedd mawr, fel yn achos Lochnagar ei hun (er bod rhai eraill yn fynyddoedd ynddynt ei hunain, mae'n siwr)? Anatiomaros 18:51, 19 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Dydw i erioed wedi bod i ben Lochnagar, ond rwy'n casglu fod Cac Carn Beag yn enw ar brif gopa'r mynydd. Mi fuaswn i'n meddwl mai enw'r mynydd ei hun ddylai fod yn deitl yr erthygl, gyda nodyn yn yr erthygl am enw'r copa ac enwau unrhyw is-gopaon. Porius1 07:36, 20 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Diolch am eich ymateb. Does gen i ddim llawer o amser y dyddiau hyn, felly maddeuwch fyrder y neges hon. Gan nad ydym yn arbenigwyr ar y copaon, awgrymaf ein bod yn eu derbyn fel y'u ceir yma ar wefan Database of British Hills. Gallwn wedyn, fel en, ailgyfeirio amrywiadau ar yr enw a'r enwau Gaeleg, fel y dont. Parthed a'r Categoriau, dyd'r basdata ddim yn nodi Siroedd, felly awgrymaf yr enw cyffredinol am griw o fynyddoedd (tebyg i Eryri neu'r Trosachs).
Mae copan Cymru i'w gweld yn eitha iach, ond fod angen golygu rhai: dyma gopio a phastio rhai o'r enwau Cymraeg: Pen Llithrig y Wrach, Pen y Castell, Pen yr Helgi Du, Pen yr Ole Wen, Yr Wyddfa - Yr Wyddfa, Tal y Fan, Trum y Ddysgl, Tryfan, Tryfan Far South Peak, Y Foel Goch, Y Garn, Y Garn, Y Lliwedd, Y Lliwedd East Top. Llywelyn2000 09:25, 22 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
1. Dwi'n cytuno gyda Porius1. Dylem ni symud hyn i Lochnagar (gweler hefyd: Sgwrs: Lochnagar - Cac Carn Mor am sylwadau perthnasol). [ON Gwelaf ar ôl cadw'r dudalen fod Lochnagar yn ailgyfeirio i hyn: camgymeriad dybryd ydy hynny.]
2. Piti garw bod y rhestr DBH ddim yn nodi'r siroedd. Wrth reswm mae angen rhoi'r mynyddoedd hyn yng nghategoriau'r ardaloedd awdurdod lleol hefyd. Bydd gwneud hynny'n nes ymlaen yn golygu oriau lawer o waith. Dwi wedi creu'r categori:Mynyddoedd y Grampians yn barod. Mae hynny'n gwneud synnwyr ond yn ddelfrydol dylen nhw fod yn y categoriau lleol hefyd.
3. Mynyddoedd Cymru. Roeddet ti'n deud uchod am ddilyn enwau'r DBH. Ar y cyfan mae hynny'n gwneud synnwyr, ond gobeithio fyddem ni ddim yn dilyn eu hawgrym "Yr Wyddfa - Yr Wyddfa"! Yn sicr dydy enwau fel "Tryfan Far South Peak" ddim yn dderbyniol chwaith - yn bersonol dwi ddim yn meddwl fod copa deheuol Tryfan yn haeddu erthygl ar wahân beth bynnag a byddai adran yn y brif erthygl yn ddigon.
Yn ola, fel Llywelyn, dwi'n brysur ar hyn o bryd - ceisio helpu pobl Tunisia mewn sefyllfa sy'n peri pryder o hyd - felly ymddiheuraf am dreulio llai o amser nag arfer yma: Normal service will be resumed shortly, gobeithio... Anatiomaros 17:48, 23 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

1. Gweler: yma: Rhestr o gopaon oedd fy mwriad; fel mae nhw'n cael eu rhestru gan y Rhestri Safonol. Mae rheiny ar gael yn hwylus. Drwy wneud hyn gallwn ddosbarthu'r copaon yn daclus i'r rhestri safonol: Munro, Marilyn, Murdos ayb. Beth yw dy ddiffiniad o "Fynydd"? A ble ellir cael rhestrau ohonyn nhw? Mae hyn i mi fel dweud "Mi sgwennwn ni erthyglau ar drefi ond nid pentrefi!" Ond dyna ni, os mai dyna mae'r mwyafrif isio, fe wnawn hynny; ond fel dw i'n ei ddweud eto - mae'n golygu llawer MWY o waith a llawer LLAI o erthyglau.
2. Gelli chwilio drwy ddilyn y ddolen i'r map. O ran copa, mae'n hawdd gan fod iddo le a safle penodol a rhif OS. O ran mynydd, mae'n anoddach - gan y bydd yn rhaid i ti ddiffinio'r mynydd yn gyntaf ac wedyn nodi pa siroedd mae'n ei gwmpasu.
3. Fe gopiais a phastiwyd union eiriad y rhestr; nodwyd hynny. Wyt ti o ddifri'n nodi na ddylem ddilyn eu hawgrym "Yr Wyddfa - Yr Wyddfa"!? O ddifri?
4. Dw i'n nodi dy brysurdeb. Llywelyn2000 05:21, 26 Ionawr 2011 (UTC)Ateb

1. "Mynydd" ydy fy niffiniad o "fynydd". Dwi'n siwr dydwi ddim yr unig un sy'n meddwl hynny. Ceir rhestrau safonol o fynyddoedd yr Alban yng nghyfrolau adnabyddus y Scottish Mountaineering Club (a sawl man arall). Does gen i mo'r gyfrol ar gyfer y rhan yma o'r Alban ('Central Highlands' a 'Northern Highlands' yn unig sy ar fy silffoedd), ond mae gen i gopi o'r enwog Munro's Tables (sy'n cynnwys rhestrau'r Corbetts a'r Donalds hefyd). Gwahanieithir rhwng mynydd a "top" munro. Yn Adran 7 nodir pum top munro sy'n rhan o fynydd Lochnagar, yn cynnwys y man uchaf wrth gwrs. Mynydd ydy mynydd. Be sy'n anodd fan'na? Fy mwynt i, a Porius1, ydy does dim synnwyr mewn cael erthyglau ar gyfer prif gopa a 4 is-gopa mynydd Lochnagar heb gael erthygl am y mynydd ei hun, sef Lochnagar. Mae'r wici Saesneg yn ailgyfeirio Cac Carn Beag, pwynt uchaf Lochnagar at Lochnagar. Mae hynny'n gall.
"Mae hyn i mi fel dweud "Mi sgwennwn ni erthyglau ar drefi ond nid pentrefi!"" Nage, dim o gwbl, ond mae'r hyn rwyt ti'n awgrymu - sef anwybyddu'r mynydd - fel cael erthyglau am bob un o ardaloedd Caerdydd ond heb gael erthygl am Gaerdydd ei hun!
2. Ia, wrth gwrs, roeddwn i'n sylweddoli hynny. Ond os ydym yn sôn am rai miloedd o erthyglau mae hynny'n mynd i olygu oriau - dyddiau efallai - o waith (a dydw i fy hunan ddim yn mynd i "ddiffinio'r mynydd" - mae cannoedd o lyfrau wedi gwneud hynny'n barod).
3. Ac ydw, mi rydwi "o ddifri'n nodi na ddylem ddilyn eu hawgrym "Yr Wyddfa - Yr Wyddfa"!" Pam? Achos mae hynny'n burion mewn rhestr er mwyn hwylustod ond fel arall mae'n hurt. Wyt ti'n awgrymu symud Yr Wyddfa i Yr Wyddfa - Yr Wyddfa neu'n dadlau bod angen erthygl ar wahân ar gyfer pwynt uchaf mynydd Yr Wyddfa, a ddiffinir gennym ni fel "Mynydd uchaf Cymru, a'r mynydd uchaf ym Mhrydain i'r de o Ucheldiroedd yr Alban, yw'r Wyddfa (1,085m/3,560 troedfedd) ym Mharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd"? Does posibl?
Yn ola, does neb yn dadlau yn erbyn defnyddio'r rhestr i greu erthyglau. Y cwbl dwi'n deud ydy bod angen tipyn o synnwyr cyffredin wrth ei haddasu. Meddylia am arweinlyfr i fynyddoedd yr Alban. A fyddet ti'n disgwyl cael penodau ar wahân i bob un o uchelfannau Ben Nevis ond heb gael pennawd am Ben Nevis ei hun? Anatiomaros 19:28, 26 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Rwy'n meddwl fod Lochnagar yn anarferol o ran bod enw i'r prif gopa sy'n wahanol i enw'r mynydd. Yn yr achos yma, rwy'n cytuno y dylai bod erthygl "Lochnagar", sy'n egluro hyn, yn rhoi enw pob copa, ac yn cysylltu i erthyglau ar y rhain os oes rhai'n bod. Fel rheol, mae enw'r prif gopa yr un fath ag enw'r mynydd ei hun, felly nid yw'r broblem yn codi yn yr un ffurf. Porius1 22:15, 26 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Diolch Porius1. Llywelyn2000 22:47, 26 Ionawr 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Lochnagar".