Sgwrs:Mwyn
Yn ôl GyA mae "MWYN" yn llai cywir na "MŴN", felly peidiwch a symud hi. Diolch. (sylw gan Defnyddiwr:Sanddef)
Yn anffodus mae Thaf yn ymddangos bod yn brysur yn dadwneud eich newidiadau heb fod wedi ymateb at eich sylw yma. Beth am drafodaeth yn hytrach na "rhyfel golygu"? Luke 12:12, 23 Chwefror 2010 (UTC)sorry I was a bit harsh - didn't realise you hadn't seen it Luke 16:00, 23 Chwefror 2010 (UTC)
- Sori, heb weld hwn. Gan fod y rhan helaeth o ffynonellau yn dweud i'r gwrthwyneb, a'r ffurf MWYN yn bodoli ar Wicipedia eisioes, gwell trafod pethau fel hyn cyn mynd ati i newid bob dim heb eglurhad. Thaf 12:15, 23 Chwefror 2010 (UTC)
- o Geiriadur yr Academi
- Mineral a & n 1 a mwnol, often, less correctly: mwynol
- ac
- 2 n mŵn (mwnau) m. less correctly: mwyn(-au)
- Mae GyA yn gwneud yn eglur iawn mai "mŵn" yw'r ffurf gywir ac bod "mwyn" yn llai cywir. (sylw gan Defnyddiwr:Sanddef)
- Efallai mai hyn yw'r achos ond dim ond un ffynhonell yw hyn, ac nid yw mewn defnydd cyffredin. Dylid dal cael barn eraill yma cyn gwneud penderfyniad pellach. Thaf 13:33, 23 Chwefror 2010 (UTC)
- Ffynhonell go bwysig yng nghyd-destun cywirdeb iaith! Hyd y gwn i nid yw na'r Geiriadur Mawr na'r Termiadur na'r BBC yn gyfrifol am safonau ffurfiol yr iaith. (sylw gan Defnyddiwr:Sanddef)
- Mae hyn yn fater o arfer, dwi'n credu. Yn Y Beibl Iaith ceir 'mŵn², gw. mwyn²'. Dan yr olaf ceir: 'mwyn², mŵn² [...] eg. ll. mwynau, -i, -ydd, mwnau, mynau. Mwyn yw'r ffurf hynaf a'r fwyaf cyffredin ond ceir enghreiftiau o mŵn o'r 15fed ganrif ymlaen hefyd. Rhaid i mi gyfaddef mai mwyn yw'r enw dwi'n arfer hefyd, er fy mod yn gwybod am yr enw arall. Mae diffiniad GPC o'r gair haearn yn cynnwys hyn: "fe'i tynnir o fwyn wedi ei gloddio o'r ddaear...". Copr: "...fe'i ceir ar ei ben ei hun a hefyd yn gyfansawdd â mwynau eraill. A beth am y gair 'mwynglawdd'? Mae Geiriadur yr Academi yn ffynhonnell safonol, wrth gwrs, ond dim ond un ffynhonnell ydyw. Un o'n canllawiau wrth enwi erthyglau ar Wici ydy defnyddio'r term/enw mwyaf cyfarwydd hefyd; buaswn i'n tybio mai 'mwyn' yw'r ffurf a ddefnyddir gan amlaf (ond dwi ddim eisiau i hyn droi'n ddadl boeth chwaith!). Anatiomaros 17:36, 23 Chwefror 2010 (UTC)
- Yn amlwg ni fydd modd plesio pawb ar hwn. Mae Cysgeir yn cynnig 'mwyn' yn unig ac yn nodi bod Geiriadur Termau Archeoleg, Termau Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Termau Hybu Iechyd, a'r Termiadur Ysgol i gyd yn cynnig yr un peth. 'Mwyn' yw'r unig ffurf rwyn gyfarwydd ag ef, ac wedi trafod ar yr aelwyd, dyma ganfod nad oes cof gennym fod wedi arfer unrhyw air am 'fwyn' cyn dod i fyw yng Ngogledd Ceredigion!:-) Rwyn hoff o ddefnyddio'r ffurfiau sydd yng Ngeiriadur yr Academi, ond yn cytuno ag Anatiamaros bod tynfa gref at ddefnyddio'r term mwyaf cyfarwydd. Rwyn ochri felly gyda 'mwyn', ond heb deimlo'n gryf naill ffordd na'r llall.
- Yr hyn sydd bwysicaf oll, unwaith bod penderfyniad i gael, yw gosod y term amgen mewn llythrennau bras ac mewn cromfachau ar ôl yr ymddangosiad cyntaf o'r enw a ddefnyddir yn y teitl. Ta waeth beth fydd teitl yr erthygl, does dim angen newid y term sy'n cael ei ddefnyddio eisoes mewn erthyglau eraill 'chwaith, nag ymatal rhag defnyddio'r term amgen mewn erthyglau eraill yn y dyfodol. Cysondeb o fewn erthygl sy'n bwysig, yn hytrach na chysondeb ar draws wici sydd wedi ei ysgrifennu ar y cyd. Gofyn am ddigio'n cyd-gyfranwyr yn ddi-angen fyddai ceisio gwahardd term sydd yn cael ei dderbyn fel term amgen - maddeuwch imi am ddweud fy nweud yn y paragraff hwn, mae'n siwr yn ddi-angen hollol. Lloffiwr 21:55, 24 Chwefror 2010 (UTC)
- Dwi'n synnu at GyA. Mae 'mwyn' yn llawer mwy cyffredin. Ysgol Rhiwabon 15:27, 26 Chwefror 2010 (UTC)