Sgwrs:Pwdin

Sylw diweddaraf: 3 mis yn ôl gan Llygadebrill ym mhwnc Gormod o bwdin?

Gormod o bwdin?

golygu

Da ydy'r rhestr o bwdinau Cymreig @Stefanik! Dw i'n gweld chydig o broblemau efo gweddill yr erthygl:

  • Mae'r agoriad yn ddryslyd iawn: Math o fwyd yw pwdin. Gall fod naill ai'n bwdin.... Eto yn yr ail baragraff: defnyddir pwdin fel cyfystyr ar gyfer pwdin!! Mae angen un ai ail-gyfieithu gan ddefnyddio geiriau gwahanol, neu ddileu'r brawddegau yma'n llwyr.
  • Mae angen gwahaniaethu'n ofalus rhwng y gair Saesneg pudding a'r gair Cymraeg pwdin yn yr ail baragraff ac yn yr adran Etymoleg - ar hyn o bryd mae'n awgrymu bod y gair Cymraeg yn cael ei ddefnyddio yn Iwerddon ac yn yr OED!
  • Gwallau teipio (gorllewinnol, bwdus...)

Llygad Ebrill (sgwrs) 08:25, 24 Gorffennaf 2024 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Pwdin".