Sgwrs:Catar

(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Qatar)
Latest comment: blwyddyn yn ôl by Llywelyn2000 in topic Catar neu Qatar?

Catar nid Qatar golygu

Fel nifer o ieithoedd eraill sy'n defnyddio llythrennau Lladin, dyw'r Gymraeg ddim yn cynnwys Q ac felly nid enw Cymraeg yw Qatar. Mae'r mwyafrif o ieithoedd yn y sefyllfa hon yn defnyddio K - Katar, ond mae'r rhai sydd heb K chwaith yn defnyddio C - Catar. Dylai'r enw Cymraeg ar y wlad hefyd fod yn Catar. Cynigaf symud y dudalen, gosod ailgyfeiriad o hon, a chywiro pob ystyr o'r enw anghywir. --Cymrodor (sgwrs) 09:06, 5 Awst 2015 (UTC)Ateb

Nawr yw'r amser. Cymrodor (sgwrs) 22:26, 8 Mehefin 2022 (UTC)Ateb

Catar neu Qatar? golygu

Ai Catar neu Qatar ydyw? Rwy'n dweud Catar.

Qatar yw'r enw yn Saesneg ac Arabeg. Ond nid oes gan y Gymraeg y llythyren Q, felly mae'n aml yn cael ei disodli gan "cw". Fodd bynnag, mae'r "Q" yn "Qatar" yn swnio fel "C" neu (mewn ieithoedd eraill) "K"; neu'r Ffrangeg "que". Felly pa enw ddylai Wicipedia ddefnyddio? Diolch. 110.150.54.155 08:13, 26 Mawrth 2022 (UTC)Ateb

Dim gwrthwynebiad gen i; ond does dim rheol na ddylid defnyddio 'q' yn y Gymraeg, na llythrennau eraill fel 'k' a 'j'; mae hi'n ddigon cryf i ymgorffori seiniau a symbolau newydd. Y cwestiwn i mi ydy, pa un sy'n mynd i gael ei hadnabod yn hawdd gan y darllenydd? Dylid nodi hefyd fod y Gatalwneg, y Fasgeg, yr Astwrieg a'r Galisieg hefyd yn defnyddio 'Qatar'; ceir 'Catar' fodd bynnag yn y Wyddeleg a Gaeleg yr Alban. Be mae academia'n ei ddefnyddio? Ffynhonellau ddylid benderefynu, nid mympwy John Morris Jones (RIP). Unrhyw syniad? Llywelyn2000 (sgwrs) 07:28, 14 Mehefin 2022 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Catar".