Sgwrs:Rheilffordd dreftadaeth

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Craigysgafn

Ni ddylid cyfuno Rheilffordd Dreftadol a Rheilffordd Gul am sawl rheswm:

1. Mae rheilffordd gul yn fath ar reilffordd (h.y., gyda lled rhwng y cledrau'n llai na 4'8 1/2". 2. Mae rheilffordd gul yn gyfrwng trafnidiaeth, ac yn wreiddiol nid oeddynt yn rhedeg i ddifyrru neu i gadw treftadaeth - er dyna'r defnydd a wneir ohonynt ym Mhrydain bellach - er bod digon o reilffyrdd cul masnachol mewn mannau eraill o'r byd o hyd. 3. Gall rheilffordd dreftadaeth fod o unrhyw led. Mae'r rhan fwqyaf y tu allan i Ogledd Cymru'n lled safonol (4' 8 1/2").Ei hanfod yw ei bodolaeth bresennol er mwyn cadw'r dreftadaeth yn fyw. Mwy o amgueddfa na chyfrwng teithio ydyw.

Y broblem yw fod yna erthygl yn barod ar Rheilffordd cledrau cul ond mae'r erthygl ar Rheilffordd Gul yn cyfateb i 'Heritage Railway' yn Saesneg. Felly mae'r erthygl ar wahan i Rheilffordd dreftadaeth yn creu dryswch. Gellid cyfuno Rheilffordd Gul gyda Rheilffordd cledrau cul neu yn wir yr erthygl hwn.--Dafyddt (sgwrs) 16:32, 11 Medi 2018 (UTC)Ateb
Ydy, mae yna broblem o ran y dolenni. Ceisiaf ei datrys. --Craigysgafn (sgwrs) 21:34, 15 Medi 2022 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rheilffordd dreftadaeth".