Sgwrs:Rhestr o feddrodau siambr yng Nghymru

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Xxglennxx in topic Enw

Enw golygu

Mae angen enw mwy penodol gan fod sawl math o siambr gladdu arall, ond dwi ddim yn siwr beth ydy'r cyfieithiad gorau o'r term Saesneg. Unrhyw gynigion? Anatiomaros 17:56, 10 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Siambr gladdu gron, dw i'n meddwl. Mae termau Eng. Heritage yn wahanol i Cadw! Llywelyn2000 19:54, 10 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Diolch i Glenn am y colofnau taclus. Llywelyn2000 19:56, 10 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Dyna un cynnig, a pham lai. Meddyliais am 'beddrod cellog' hefyd, ar sail y termau 'beddrodau Hafren-Cotswold' a 'carnedd gellog' sydd gennym yn barod. Y pwynt ydy fod 'siambr gladdu' yn derm rhy gyffredinol (ond gwneiff y tro am y categori cyffredinol, mae'n debyg). Mae cromlechi a beddrodau Hafren-Cotswold a ballu yn siambrau claddu hefyd. Dydy'r archaeolegwyr eu hunain ddim yn gyson bob tro, fel rwyt ti'n nodi, ac unwaith yn rhagor rydym ni ar y Wici yn gorfod ymbalfalu am dermau Cymraeg safonol mewn maes arbenigol. Anatiomaros 20:21, 10 Hydref 2010 (UTC)Ateb
'Sdim clem 'da fi am yr enw(au), ond mae cynnwys i'w drefnu o hyd wedi'i guddio o hyd, ch'mod. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:29, 10 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Aha. Mi welaf rwan. Rhy hwyr heno ond diolch i ti am dynnu fy sylw at hynny. Mae'r ffaith fod CADW yn tueddu i anwybyddu enwau Cymraeg ac hefyd yn defnyddio'r hen siroedd am ryw reswm neu'i gilydd (bois bach, 'dan ni'n byw yn yr 21ain ganrif rwan!) yn creu problemau - mae'n bosibl felly bod rhai o'r rhain yma yn barod... Anatiomaros 23:11, 10 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Mae beddrod siambr / cellog (dy gynnig uchod) yn gyfieithiad uniongyrchol. Pam lai. Llywelyn2000 04:35, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Gresyn does dim geiriadur termau archaeoleg ar gael. Be gawn ni felly, 'siambrau claddu cellog' neu 'beddrodau cellog'? Cyfieithiadau slafaidd, mae'n wir, ond yn niffyg termau Cymraeg cydnabyddedig be wnawn ni? Anatiomaros 22:03, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Dw i ddim yn siwr o'r colofnau - mae nhw'n rhy bell o'i gilydd i fedru eu darllen yn sydyn. Dydy'r colofnau ddim chwaith yn lefel a bydd trefnu o ran yr Wyddor yn amhosib!Llywelyn2000 05:23, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Dwi ddim yn gwybod sut i ddatrys y pellter, a ddim yn gwybod beth i'w awgrymu er mwyn trefnu yn ôl (mewnosod gair yma!), ond mae popeth yn wastad nawr. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:42, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Diolch Glenn. Roeddwn i'n meddwl fod y golofn dde ryw fymryn yn uwch na'r un gyntaf hefyd ac felly roedd hi'n anodd darllen ar draws, ond mae'n edrych yn iawn rwan. Anatiomaros 21:59, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Croeso. Gyda'r enw, beth, yn union, wyt ti isio cyfleu? Brawddeg Saesneg? -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:33, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
"Chambered tombs". Dyna sydd yn frawddeg gyntaf yr erthygl, beth bynnag. Ar y llaw arall mae hynny ei hun yn derm cyffredinol braidd gan fod sawl math o chambered tomb a cheir eraill sy'n wahanol eto. Mae nhw i gyd yn "feddrodau megalithig"/"siambrau claddu megalithig". Wrth ystyried, dwi'n meddwl byddai categori "henebion megalithig" yn syniad da hefyd (mae hynny'n cynnwys y cyfan, e.e. meini hirion, siambrau claddu, cromlechi...). Anatiomaros 22:42, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Wel mae Cysgeir yn awgrymu "Beddrodau siambr." -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:25, 11 Hydref 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Rhestr o feddrodau siambr yng Nghymru".