Sgwrs:Rhestr ynysoedd Cymru

Sylw diweddaraf: 10 o flynyddoedd yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Rhestr gyflawn?

Ynys Lochtyn neu Lochdyn? Shelley Konk 21:56, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Ynys Lochdyn yn ôl fy map o Gymru yn y Gymraeg. Dydy Lochtyn ddim yn swnio'n naturiol chwaith. Anatiomaros 22:20, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Mae Lochdyn yn swnio'n iawn gan fod y 't' yn meddalu, fel sy'n digwydd yn ynganiad y Cymro. Mae'r 'll' yn achosi yr un meddalu (mellten er enghraifft). Ond Lochtyn sy'n cael ei sgwennu. Mae hyn yn cael ei gadarnhau yma ac acw gan: [Cymdeithas Edward Llwyd], Cyngor Sir Ceredigion, [page=4&cHash=cf95f2d8b0 Casglu'r Tlysau] a'r BBC. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Llywelyn2000 (sgwrscyfraniadau) 23:51, 10 Ebrill 2009
Diolch i ti, Llywelyn. Mae'r awdurdodau am yr enwau ar y map yn cynnwys Bruce Griffiths a'r Rhestr o enwau lleoedd gan Elwyn Davies (Gwasg Prifysgol Cymru). Enghraifft arall o'r arbenigwyr yn anghytuno efallai? Anodd gwybod yn wyneb hyn pa un i'w ddewis, ond gellid nodi'r amrywiad(au) yn yr erthygl (pan ddaw!). Anatiomaros 22:59, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
ON Ond 'Ynys Lochtyn' sy gan T. I. Ellis yn ei gyfrol Crwydro Ceredigion. Anatiomaros 23:01, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Ac yn y diwedd, yr un ydy'r olygfa! Llywelyn2000 23:21, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Rhestr gyflawn?

golygu

Ydy'r rhestr yma'n gyflawn? Oes llyfr neu wefan dibynadwy ar y pwnc? Llywelyn2000 (sgwrs) 12:36, 21 Mai 2014 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Rhestr ynysoedd Cymru".