Mae Arwel wedi newid BBC Wales i BBC Cymru fan hyn. Rwyn credu mai BBC Wales ddylai fod gan yr ydym yn son am adeg cyn S4C a doedd dim BBC Cymru yn bod bryd hynny. Yn wir rwyn credu mai tu 1978/9 y daeth Radio Cymru hyd yn oed.

Dyfrig 19:11, 11 Aws 2004 (UTC)

Dwi'n siwr dydw i'n cofio "BBC Cymru/Wales" 'nol yn y 70au... neu wyrach rydwi'n mynd yn hen...
Am overdose o nostalgia, ydych chi wedi gweld gwefan y Harlech House of Graphics? -- Arwel 23:02, 11 Aws 2004 (UTC)

Ar phob fideo oddiwrth S4C yn yr 1980au, mae S4C yn cael logo fel, "wales4cymru". Ni ellir cael hwnna yn yr Erthygl. Draig goch20 15:21, 14 Awst 2005 (UTC)Ateb


Dyma erthygl arbennig a chredaf fyddai fe'n werth edrych ar y fersiwn Saesneg er mwyn ychwanegu i'r erthygl hwn. A fyddai rhywun yn gallu gwneud hyn? 195.10.45.203 19:23, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)Ateb

Mae cryn dipyn o waith ar hon. Er enghraifft faint o oria a ddarperir gan y cwmniau annibynol a rhestr ohonynt. Nid fy maes i, fodd bynnag! Llywelyn2000 11:49, 20 Mai 2009 (UTC)Ateb

beth? golygu

"'Dyw S4C ddim yn cynhyrchu rhaglenni ei hun, ond yn eu comisynu oddi wrth gwmniau annibynnol, ac yn y gorffennol bu gan y sianel enw da am gynhyrchu cartwnau megis SuperTed, Sam Tân, Shakespeare - The Animated Tales ac ati."

Nid yw hynny'n gwneud lot o synnwyr! Sut gawsan nhw enw da am gynhyrchu rhaglenni heb eu cynhyrchu? Enw da am gomisiynu rhaglenni y dylai fod. Gwingwyn 09:20, 19 Medi 2009 (UTC)Ateb

Pwynt da - wedi cyiro! Thaf 08:39, 19 Medi 2009 (UTC)Ateb


S4C yn Almaeneg golygu

Angen!--RedDragonMachynlleth 13:17, 22 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Oes! Typical o'r wici hwnnw... Anatiomaros 16:14, 22 Hydref 2010 (UTC)Ateb


Ystadegau Gwylwyr Siomedig a chadw'r ddegsl yn wastad golygu

Nid ceisio bod yn ymddiheurwr (apologist?) dros nifer isel o wylwyr rhagleni S4C ydw i, ond mae'r ethygl hon yn cyfeirio at adroddiadau diweddar yn y wasg parthed niferoedd gwylio a oedd yn seiliedig ar arolwg BARB. Mae (o leiaf) dau gofnod blog yn cwestiynnu pa mor ddibyniadwy ydy'r rhain (gweler yma ac yma). Dw i'n ei weld o'n biti bod y wasg Brydeinig a "Chymreig" yn barod i ddyfynnu alci o gyn wleidydd pob tro mae'n torri gwynt, tra nad ydynt yn ymchwilio eu storiau'n drylwyr. Yn anffodus (ond nid yn annisgwyl) nid yw'r safbwynt yma wedi cael sylw yn wasg, a dylwn i ddim defnyddio blogiau fel ffynhonellau, ond trwy drio cadw'r ddesgyl yn wastad nid ydym yn rhoi'r stori cyfan yma yn fy marn i. --Ben Bore 07:41, 28 Hydref 2010 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "S4C".