Sgwrs:Samsung S5600

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Meddalwedd arbennig

Yn sicr, fel y ffon cyntaf i fod a dewis rhyngwyneb Cymraeg, mae'n haeddu erthygl (diolch JJ!), ond dw i'n ansicr am gywirdeb rhai o ddatganiadau yn yr erthygl.--Ben Bore (sgwrs) 09:20, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Meddalwedd arbennig golygu

Pa feddalwedd arbennig oedd ei angen? Hyd y gwelaf i, mond cynnig opsiwn Cymraeg yn ychwanegol i'r sawl iaith arall a gynnigir fel arfer y gwnaed yma.--Ben Bore (sgwrs) 09:20, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Cytuno Llywelyn2000 (sgwrs) 15:18, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
O ail ddarllen (drwy'r ddolen i ByI), gwelaf fod hyn yn gywir! felly dw i heb ei ddileu. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:21, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
Methu agor y ddolen ByI ar hyn o bryd, a faswn i ddim ynymddiried gormod mewn datyganiadau i'r wasg gan sefydliadau os nad ydyntyn arbennigo ym maes technoleg, ond mi adawaf o am y tro ta. Wedi bathu'r term testun rhagfynegol (am predictive tecst). Mae testun rhagfynegol Cymraeg yn bodoli'n barod - fe wneaeth ByI ei hun gomisiynu http://www.tecstio.com/ rhai blynyddoedd yngynt. Newydd sylwi mai 'tecstio darogan'maen nhw wedi ddefnyddio, felly af gyda hyn. --Ben Bore (sgwrs) 09:35, 20 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
Gret. Mae "testun rhagfynegol" yn llawer mwy naturiol a gwell na bathiad ByI! Mae na ddalen rhywle yma ar Wici yn cynnwys bathiadau o'r fath. Mi chwilia i yn nes ymlaen amdano. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:16, 20 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Ffon clyfar a'i peidio? golygu

Nid mod i'n gwybod i sicrwydd, ond ro'n i o dan yr argraff mai ffon clyfar oedd hon (er, un o'r rhai cynharaf)? beth sy'n ei gwneud hi ddim i fod yn ffon clyfar (h.y. pa nodweddion sy ar goll?)--Ben Bore (sgwrs) 09:20, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Dw i wedi edrych ar Wici_en, fel rwyt titha mae'n siwr, a does dim cyfeiriad yno sut ffôn ydy o; tydy gwefan Samsung ychwaith ddim yn nodi a oes ganddo allu "GPS" sy'n hanfodol i unrhyw ffon clyfar, dw i'n meddwl. Hanfod arall ydy'r gallu i dderbyn band-llydan cyflym, ac mae hwnnw'n ei le. Gan nad yden ni'n gwbwl sicr, dw i wedi tynnu'r gosodiad i ffwrdd. Diolch. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:18, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
Lot o ansicrwydd os oes GPS na di-wifr arno. Rhan fwyaf o adolygiadau o chwiliad Gwoogle yn dweud nad oes. Oond wedi dileu'r fraweddeg "Yn anffodus, nid yw'n ffon g;yfar" gan nad yw'n glir pam fod hyn yn anffodus ac i bwy.--Ben Bore (sgwrs) 09:35, 20 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Ar gael mewn siopau ac ar-lein golygu

Dychmygaf i nad yw bellach ar gael mewn siopau o feddwl bod y ffon yn dair oed bellach. Does dim son amdani ar wefan Orange wrth chwilio am Samsung S5600.--Ben Bore (sgwrs) 09:20, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb

Cytuno. Wedi newid. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:18, 19 Mawrth 2012 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Samsung S5600".