Sgwrs:Sandplace
Sylw diweddaraf: 9 mis yn ôl gan Llywelyn2000 ym mhwnc Tewesva
Tewesva
golyguDydw i ddim yn deall pam mae'n well gennych chi'r enw Saesneg Sandplace! Audentes fortuna iuvat Ériugena (sgwrs) 21:29, 20 Mawrth 2024 (UTC)
- Mae holl enwau llefydd yng Nghernyw yn ddadleuol. Byddai'r byd yn lle hapus pe bai pawb yng Nghernyw yn siarad Cernyweg, a byddai pob arwydd ar ochr y fordd a phob enw ar y map yn ei ffurf Gernyweg, ond dyw hynna'r sefyllfa. Yn ym marn i, dylen ni ofyn y cwestiwn, "Beth fyddai fwyaf defnyddiol i siaradwyr y Gymraeg?" Ac ar hyn o bryn y ffurf Saesneg yw honna. Felly Sandplace.
- Ceir ffurfiau amrywiol ar enwau llefydd Gernyweg hefyd. Y fi oedd yr un a osododd yr enw "Tewesva" ar y dudalen hon yn y lle cyntaf. Bryd hynny roedd y rhestr gan MAGA yn debyg i ffynhonell swyddogol, ond mae rhestr MAGA wedi darfod bellach. Dw i'n teimlo'n gryf na ddylen ni ddechrau newid y penawdau nes y cerir mwy o gytundeb o ran y ffurfiau Cernyweg. Dw i o blaid hyrwyddo'r Gernyweg ond nid ar draul creu dryswch diangen fan hyn. Hwyl, Dafydd. --Craigysgafn (sgwrs) 22:42, 20 Mawrth 2024 (UTC)
- Cytuno efo Craigysgafn o ran trefi a phentrefi mawr, poblogaidd. Mae na safoni wedi digwydd yn ddiweddar, diolch i Akademi Kernewek; dw i wedi ychwanegu rhyw 5,000 o enwau llefyd ar Wicidata (Cernyweg a Chymraeg). Yn ddiddorol, mae'r wici Gatalaneg yn defnyddio'r fersiwn Saesneg o enwau llefydd yng Nghymru a Chernyw (ayb) a'r Fasgeg (a'r wici Wyddeleg) yn defnyddio'r enwau Cymraeg a Chernyweg, gyda'r Saesneg mewn cromfachau. Rhywle yn y canol ydan ni ar hyn o bryd, dw i'n meddwl! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:40, 21 Mawrth 2024 (UTC)