Sgwrs:Siasbar Tudur

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Gwedi elwch in topic Robert Tudor

Dim ond ar ddiwedd ei oes y daeth Siasbar yn Iarll Richmond. Edrycher mewn unrhyw lyfr ar hanes Cymru yn Gymraeg neu Saesneg a phrin y gwelwch chi un cyfeiriad ato dan y teitl hwnnw. Os defnyddir teitl ar ôl ei enw, Iarll Penfro sy'n arferol. Mae'r ddadl ar dudalen Sgwrs yr erthygl Saesneg yn berthnasol hefyd. Anatiomaros 18:18, 11 Medi 2007 (UTC)Ateb

Iawn, sori, sgin i ddim dadl gyda hynnu. Dim ond ceisio cysoni oeddwni! Thaf 08:33, 12 Medi 2007 (UTC)Ateb

Robert Tudor golygu

Mae'r Bywgraffiadur Arlein yn dweud nad oedd ganddo blant; mae en-wici'n dweud fod ganddo fab Robert, felly hefyd ambell wefan ee hwn; ond pa mor ddibynol ydy'r ffynhonnell? Sut mae hollti'r ddadl? Llywelyn2000 (sgwrs) 23:10, 10 Ionawr 2016 (UTC)Ateb

Cafwyd ateb ar Trydar gan Sara Elin Roberts (@SaraElinRoberts), a diolch iddi am gysylltu. Dywedodd: Byddai hwn yn fab cyfreithlon i Siasbar a'i wraig, ac felly yn etifedd Dugaeth Bedford. ac yna: tystiolaeth o gwbl hyd ag y gwn i. Mae'r cofnod ohono ar Wikipedia yn newydd- Awst llynedd. Mi af ati rwan i lanhau'r wybodaeth anghywir a roddwyd ar en-wici, a thrwy hynny i cy-wici. Gyda llaw, mynegodd un farn arall, sef Hefyd, nid oedd Siasbar yn defnyddio 'Tudur' fel cyfenw a pheth diweddarach yw galw'r teulu yn Duduriaid. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:42, 11 Ionawr 2016 (UTC)Ateb
'Rwy' wedi edrych ar y pwnc yma o'r blaen, wrth golygu y tudalen ar Siasbar yn Wikipedia saesneg. 'Dw'y ddim wedi dod o hyd i dystiolaeth am fab Robert. Mae 'na tystiolaeth go dda am ei ferch Elen / Helen a'i mab Tomos Gardiner. Nid oes sail gwerthfawr i'r ail merch (Siwan / Joan) nac i'r cysylltiad efo Thomas Cromwell a Oliver Cromwell. Mae 'na ddigon o sbwriel yn ein achau Cymreig - gwell peidio a rhoi mwy trwy erthyglau fel hyn yn Wikipedia - gwedi elwch / Alan Griffiths Gwedi elwch (sgwrs) 17:21, 26 Chwefror 2023 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Siasbar Tudur".