Sgwrs:Sylvia Anderson

Latest comment: 3 blynedd yn ôl by Llywelyn2000

@Barrow1965: Gwnaethoch chi newid i "Ddinasyddiaeth" yn y wybodlen ar 28 Chwefror. Mi wnes i ddadwneud y newid hwnnw gydag esboniad yn y "Hanes". Aeth eich newid yn groes i'r polisi yma o restru pobl yn ôl eu cenedl yn y DU. Os oes rhyw reswm arbennig pam fod Sylvia Anderson yn "Brydeinig" yn hytrach na "Seisnig", ni allaf i ddod o hyd iddo. Ar Enwiki mae hi'n "English television and film producer, writer, voice actress and costume designer". Os oes gennych chi ryw reswm arbennig, cyflwynwch ef yma os gwelwch yn dda. Gwnaethoch chi eich newid eto ar 17 Mawrth, a hefyd gwneud newid anghywir i gorff yr erthygl (dylai "actores Prydeinig" fod yn "actores Brydeinig" wrth gwrs). Fe wnaethoch chi ddadwneud fy newid ar 18 Mawrth, eto heb eglurhad. Byddaf i'n ei ddadwneud eto, am y rhesymau a roddais i o'r blaen. Cyn i chi feddwl am ei newid yn ôl, rhowch esboniad yma o'ch rheswm. --Craigysgafn (sgwrs) 10:14, 18 Mawrth 2021 (UTC)Ateb

Cytuno gyda Craigysgafn, sydd wedi nodi yn y crynodeb pam ei fod yn dadwenud. Ond fel arall mae hi gyda Barrow1965 - newid heb nodi pam, ac mae hynny'n hollol groes i'n harferiad. Mi rof rybudd iddo/i ar ei tudalen Defnyddiwr Sgwrs. Diolch am dy ofal a'th amynedd Craigysgafn. Llywelyn2000 (sgwrs) 15:49, 18 Mawrth 2021 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Sylvia Anderson".