Sgwrs:Tŷ haf

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Mond symyd brawddeg wnes i Alan

Erthygl bwysig golygu

Da iawn am ddechrua'r erthygl yma, efallai trosiaf ychydig o'r cynnwys i'r Wikipedia Saesneg

Tai haf yng Nghymru. Yn ogystal a Cymuned, mae Plaid Cymtu wedi bod yn galw am gyfyngu, drwy'r sustem gynllunio [1], [2], yn debyg i beth sy'n bodoli eisioes yn Lloegr ac ucheldiroedd yr Alban (dolenni yn adran cyfeiriadau yr adran hyn o erthlg ar y Wici Saesneg). Dw i wedi ychwanegu rhai cyfeiradau am engrhifftaiu yn Lloegr ar erhtygl Cymuned ar y Wici Saesneg yn y gorffenol dw i'n meddwl.

Mae'r tablau % yn Lloegr a'r Alban yn effeithiol, er dw i'n meddwl eu bod yn erdych yn rhyfedd fel striped hir lawr yr ochr dde. Dw i ddim yn siwr sut (typical!), ond byddai efallai'n syniad lleihau y ffont gyda'r ddau dabl, a splitio un yr Alban yn ddau/dri colofn?--Ben Bore 16:01, 13 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Diolch am dy sylwadau. Ro'n i wedi trio hollti tabl yr Alban ond heb fawr o lwyddiant!
Doeddwn i ddim eisiau i hwn fod am Gymru yn unig gan fod y pethau'n wir mewn nifer o wledydd. Angen son hefyd am yr holl strach yn Sbaen gyda'r cyfreithiau tir a chynllunio fel mwd; ac am y nifer o'r ardaloedd yno sy'n cael eu Seisnigeiddio.
Dim yn joban dau funud, ond bydd hi'n erthygl diddorol bethbynnag! Thaf 16:12, 13 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Priodoli barn golygu

Am y brawddegau hyn:

  • Yng nghyd-destyn Cymry, mae'r tŷ haf yn rhywbeth di-angen, gwastraffus ac estron.
  • yng Nghymru gall hyn fod yn fygythiad i Gymreigrwydd ardal gyda'r cynnydd yn y nifer o drigolion di-Gymraeg.

Dyma barn pwysig iawn, ac mae rhaid i'r erthygl ei adrodd, wrth gwrs. Dwi bron yn siwr mai barn y mwyafrif ydy o. Ond barn ydyw serch hynny, ac felly dylai'r erthygl peidio â'i fynegu heb briodolaeth. A fedrem ni ansoddi'r mynegiadau hynny gan roi enghreifftiau o bobl neu sefydliadau nodadwy sy'n dweud y pethau hynny? Alan 23:58, 19 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

(O.N. Dwi'n gwybod y dilynir yr ail frawddeg uchod gan gyfeiriadau. Ond nid yr un peth â phriodolaeth yn y testun ei hun ydy hynny. Alan 00:05, 20 Chwefror 2009 (UTC))Ateb
Mae'n ymddangos bod Thaf yn cytuno. Alan 15:15, 22 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Ffynonellau golygu

Diddorol dy weld yn defnydio'r isbenawd "Ffynonellau" yn hytrach na'r "Cyfeiriadau" arferol. Mae'n llawer gwell gair yn fy marn i, ond gwn fod dadleuon wedi bod ynghylch hyn yn y gorffennol. Erthygl dda. Oes gen ti dabl o ganrannau siroedd Cymru hefyd? Llywelyn2000 06:53, 20 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Mond symyd brawddeg wnes i Alan golygu

Dwi wedi copio un frawddeg o'r paragraff olaf (Ymryson). Ga i ofyn i ti pam wyt ti wedi ei ddileu? Y rheswm i mi ei gosod yno oedd er mwyn gwneud yr erthygl yn berthnasol i Gymry; fel y dylai POB erthygl ar Wicipedia fod. Nid cyfieithiad o'r Saesneg / Pwyleg ydyw.

Fel y saif yr erthygl ar hyn o bryd: diffiniad o dy haf ydy'r frawddeg gyntaf, fel ag y mae. Dim problem. Mae'r ail frawddeg / paragraff, fodd bynnag, yn son am effaith gwefannau ar dai haf. Dwi ddim yn meddwl fod hyn mor bwysig ag ydyw oblygiadau tai haf i gefn gwlad a'r effaith negyddol a gânt ar ein cymunedau.

Dyna a wneir yn 'Gwyddoniadur Cymru' (Yr Academi, 2008) gyda llaw. Eu hail frawddeg nhw ydy: 'Ond yn sgil y cynnydd mewn cyfoeth personol o'r 1960au ymlaen galluogwyd llawer mwy o bobl o ardaloedd trefol, y mwyafrif mawr ohonynt o Loegr, i brynu tai haf neu ail gartrefi yn y Gymru wledig.' (tudalen 879) Llywelyn2000 06:50, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Dim ots iawn i mi, a dw i ddim am gael ffrae am hyn, ond rhoi sŵn am ddadlau neu am feirniadaeth o bwnc yr erthygl ar ôl diffiniadau syml a.y.y.b. yw'r patrwm cyffredinol ymysg erthyglau wicipedia a ydw i wedi eu darllen. Alan 10:40, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
O.N. dwi'n tybio gan ei deitl, bod 'Gwyddoniadur Cymru' yn profi fod yn wyddionadur Cymreig mwy na Chymraeg. Ond nid pawb sy'n meddwl dylai wicipedia fod yr un peth -- dyma ymateb Ben Bore i fy awgrymiad fy hun i roi'r ddraig goch yn lle pwysicach yn y hafan:
"Er cymaint o wladgarwr ydw innau, fyddwn i ddim yn meddwl bod eisiau rhoi lle rhy amlwg i'r Ddraig Goch - Wici iaith Cymraeg yw hwn, nid Wici Cymreig." [3]
Cofion, Alan 10:47, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Rwy'n tueddu i gytuno ag Alan yma, ond ar y llaw arall mae'r frawddeg "Mae nifer o fusnesau wedi datblygu gwefannau lle y gall perchnogion tai haf hysbysebu eu heiddo ..." i weld braidd yn od fel ail frawddeg yr erthygl, er yn ddigon priodol yn nes ymlaen. Rhion 11:52, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Dwi'n meddwl mai'r unig ffordd i ddatrys hyn ydy cyfyngu'r testun agoriadol i baragraff byr sy'n diffinio beth yn union ydy tŷ haf. Mae'n ddarllen yn rhyfedd fel y mae, yn enwedig yr ail frawddeg, fel mae Rhion yn nodi uchod. Does dim rhaid i ni ddilyn y drefn ar en: o gwbl a buasai'n ddiddorol cymharu'r erthyglau ar y wicis eraill hefyd. Dwi'n cytuno bod tai haf yn broblem mewn sawl gwlad ac y dylai'r erthygl adlewyrchu hynny, ond ar ôl dweud hynny dwi'n meddwl fod adran neilltuol ar y sefyllfa arbennig yng Nghymru yn briodol hefyd oherwydd yr effaith andwyol mae'n cael ar yr iaith Gymraeg (iaith yr argraffiad hwn o'r wicipedia, wrth gwrs...). Anatiomaros 23:34, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
ON Peth arall sy'n taro rhywun yn od ydy'r ffaith fod tablau mawr amlwg am y nifer o dai haf yn yr Alban a Lloegr a dim un am Gymru. Anatiomaros 23:42, 23 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Mae'n bosib nad yw data yma yn cael ei gasglu am Gymru (neu ddim yn cael ei gyhoeddi, rhag rhoi'r argraff ein bod ni'n hiliol!)--Ben Bore 08:44, 24 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Mae'r data yn cael ei gasglu, Ben. Llywelyn2000 23:13, 24 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Yn bersonol, credaf fod dyfyniad Alan uchod o waith Ben Bore allan o gyd-destun ac felly'n gwbwl abswrd. "Er cymaint o wladgarwr ydw innau, fyddwn i ddim yn meddwl bod eisiau rhoi lle rhy amlwg i'r Ddraig Goch - Wici iaith Cymraeg yw hwn, nid Wici Cymreig." Mae angen ystyried hyn yn ddifrifol. Cyfieithiad o Wikipedia ydych ei angen felly? Gwae ni! Gogoniant Wicipedia i mi yw ei fod yn Gymraeg AC YN GYMREIG. Pethau sy'n ymwneud â Chymru yw'r ystyr "Cymreig". Os mai Wici Cymraeg yn unig ydych yn ei ddymuno yna dilewch pob llun ar unwaith! Ystyr Cymreig ydy "pethau sy'n ymweud a Chymru" medda fi eto; y pethau sy'n ein gwneud ni'n wahanol i bob cenedl arall. Hurtrwydd fyddai peidio â mynd i sôn am rieni Murray the Hump yn dod o Garno, er enghraifft, a'u bont yn Gymry Cymraeg. Mae hyn yn gwbwl berthnasol i ni gan mai Cymry ydym ni. Dyma'r pethau Cymreig rydych am eu dileu? Ydych chi o ddifri yn credu y byddai Ffrancwr yn dweud "WiQi Ffrangeg ei hiaith yw hwn ac nid WiQi sy'n rhoi llwyfan i bethau Ffrengig"! Wrth gwrs na fydde. Wrth ein traed y dylem gychwyn pob erthygl; wrth ein traed.

A dweud y gwir, mi roeddwn i'n lled-gytuno gyda Ben Bore yng nghyd-destun tudalen flaen Wici - nad oedd angen chwifio'r ddraig yn ormodol. Rhywbeth i'w gymryd yn naturiol ydy Cymreictod; "less is more". Ond mater arall ydy cynnwys erthyglau; ac fel pob gwers ysgol dda - dylem ymfalchio yn yr hyn sydd wrth ein traed; cychwyn yn y fan honno ac yna ymlaen i Wledydd Prydain, Ewrop a'r byd mawr. Hyn sy'n gwneud y pwnc yn berthnasol i'r darllenydd. A hyn sy'n gwerthu rhifynau Golwg yn wythnosol: nid y ffaith ei fod yn Gymraeg ond y ffaith ei fod yn Gymraeg AC yn Gymreig. Ymfalchiwn ym mhob agwedd o Gymreictod ar Wici - cyn belled a'i fod yn bositif heb arlliw negyddol; ei fod yn deillio o gariad, ac nid casineb, mae hyn yn iach, yn gwlwm cenedl i'w ymfalchio ynddo.Llywelyn2000 23:13, 24 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Na, nid cyfieithiad o Wikipedia sydd ei angen, ond nid fersiwn ar-lein o Wyddoniadur Cymru chwaith. Un o'r problemau mawr gyda Wikipedia yw fod gormod o olygyddion yn meddwl ei fod yn Wiki Seisnig neu Americanaidd yn hytrach nag un Saesneg. Mae rhywfaint o'r un duedd yn y Wici Ffrangeg hefyd; llai yn yr un Almaeneg. Am eu bod nhw'n blwyfol, does dim rhaid i ni fod. Ydw i'n gwastraffu fy amser yn ysgrifennu erthyglau ar ddinasoedd yn Ffrainc neu Affrica am nad oes cysylltiad Cymreig? Ar bod cyfrif tynnu sylw at gysylltiadau Cymreig Murray the Hump, does neb yn dweud na ddylid gwneud hynny - ond a yw hynny'n golygu peidio cael erthygl ar Al Capone am nad oedd ei hynafiaid o yn dod o Gymru? Rhion 07:04, 25 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Ces i fy nyfynu ychydig allan o gyd-destun. Mae gwahaniaeth rhwng cael draig goch fawr ar dudalen flaen y Wici, a bod erthyglau'r wici yma'n rhoi pwyslais a balenoriaeth i enghreifftiau Cymraeg a Chymreig o fewn erthyglau am bynciau sy'n berthnasol i'r byd cyfan. A dw i ddim yn meddwl ei fod yn fater o 'either/or' chwaith.
O feddwl bod mwyafrif llethol o siaradwyr Cymraeg unai'n byw neu'n dod o Gymru'n wreiddiol, dw i'n meddwl ei fod yn llawer llai Cymru-centrig nag ydy'r Wiki Saesneg yn america-centrig!--Ben Bore 09:24, 25 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Rhaid i mi gytuno â Rhion a Ben. Gwyddoniadur "gatholig" - h.y. AM BAWB A PHOPETH - ydy'r wicipedia, waeth beth ydy iaith yr argraffiad. Dyna yw ei ogoniant a dyna hefyd, yn fy marn i, sydd ei angen yn y Gymraeg. Wrth gwrs mae lle pwysig i Gymru a Chymreictod o fewn y drefn honno, ond dwi eisiau gweld erthyglau am bopeth dan haul, yn y Gymraeg, er mwyn rhoi iddi'r urddas ac anrhydedd y mae hi'n haeddu: mae hynny ynddo ei hun o les mawr i Gymru a'r Cymry hefyd, felly be ydy'r broblem? Efallai fod rhai Ffrancod sy'n cyfrannu i'r wicipedia Ffrangeg yn ei drin fel wicipedia Ffrengig, plwyfol, ond dwi wedi darllen nifer o erthyglau am Ogledd Affrica arno, er enghraifft, ac mae'n amlwg bod Morocwyr, Algeriaid a Tunisiaid yn cyfrannu'n helaeth hefyd. Wicipedia francophone ydy o, Ffrangeg ei iaith. Mae'r un peth yn wir am ein wicipedia ni, dydy o ddim yn wicipedia Cymreig fel y cyfryw ac ni ddylai o fod chwaith. Ymlaen â ni: Cymru A'R byd! Anatiomaros 18:04, 25 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Wrth gwrs fod angen erthyglau ar wledydd eraill, ar al Capone, ar Obama a mi rydwi wedi cyfrannu'n eitha helaeth at y rheiny. Ond gellir sôn am unrhyw gysylltiadau Cymreig sydd ynddynt / ganddynt, er mwyn eu gwneud yn berthnasol. Dechrau wrth ein traed ydy hyn (ond gorffen efo'r cosmos cyfan!) Er enghraifft: Caerlwytgoed - nid cyfieithiad slafaidd o'r Saesneg yw'r erthygl am y dref hon yn Lloegr. Mae'r erthygl yn sôn mai yno, yn y gadeirlan y "Cedwir Llyfr Sant Chad, llawysgrif Ladin sy'n cynnwys y darn hynaf Cymraeg ysgrifenedig mewn llyfr." Dyma gysylltiad Cymreig. Ac yn fy llyfr i, nid bod yn "blwyfol" ydy hyn eithr ehangu cysylltiadau gan ddechrau wrth ein traed. Fydd gan llawer o wledydd / siroedd / trefi / pobol ddim cysylltiad â ni - dio'm ots! Ymlaen a nhw, wrth gwrs! A thydw i ddim wedi dweud unwaith na ddylid eu cynnwys. Ond yn sicr, gydag erthygl am broblem enfawr yng Nghymru (e.e. Tai Haf) mae angen i'r cysylltiad Cymreig hwnnw gael ei wneud yn gwbwl glir ar ddechrau'r erthygl. Diolch Alan, am wneud hynny, bellach. Llywelyn2000 21:36, 25 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Effaith y we (a phethau eraill) golygu

Parthed y frawddeg am wefannau, mae hyn yn dilyn cyfieithu'r erthygl Saeseng, ac o ddarllen rhwng y llinellau yno, mae'n ymddangos bod yr erthygl wedi ei greu o bosib gan rhywun ynghlwm a'r diwydiant gwerthu/rhentu tai haf (e.e. pwysleisio eu manteision dros aros mewn gwesty, dangos sut mae pobl fel Richard Branson yn berchen ar un ac yn gweihtio ohono a.y.y.b.).

Byddai ddim yn golled mawr petai sôn am effaith y we yn diflannu - byddwn i'n dadlau bod y 'broblem' tai haf yng Nghymru wedi bod yn fwy difrifol cyn dyfodiad y we.

Rhywbeth dylai gael ei grybwyll yn y cyd destun Ewropeaidd yw dyfodiad 'budget airlines' sydd wedi galluogi Prydeinwyr (a phobl o weldydd eraill) i fod a thai yn ne a dwyrian Ewrop (rhannau anghysbell de Ffrainc a gwledydd fel Bwlgaria wedi gweld twf aruthrol mewn ail-dai/tai haf yn sgil hyn?). --Ben Bore 08:42, 24 Chwefror 2009 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Tŷ haf".