Caerlwytgoed

dinas yn Swydd Stafford

Dinas fechan a phlwyf sifil yn Swydd Stafford, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Caerlwytgoed (Lladin Letocetum; Saesneg: Lichfield).[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Lichfield. Saif 25 km (14 milltir) i'r gogledd o Birmingham. Mae'n enwog am ei chadeirlan, ac mae'n bwysig fel canolfan eglwysig, er nad yw wedi datblygu fel canolfan ddiwydiannol.

Caerlwytgoed
Wyneb gorllewinol cadeirlan Caerlwytgoed
Mathdinas, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Lichfield
Poblogaeth33,816, 32,580 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iLimburg an der Lahn, Sainte-Foy-lès-Lyon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Stafford
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd14.02 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr81 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLongdon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6835°N 1.82653°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04008932 Edit this on Wikidata
Cod OSSK115097 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 32,219.[2]

Daw enw Lichfield o'r Frythoneg *Leitocaiton, enw yn cynnwys elfennau cytras â'r geiriau Cymraeg cyfoes llwyd a coed. Benthyciwyd yr enw hwn gan y Rhufeiniaid fel y Lladin Letocetum, a ddatblygodd i elfen gyntaf yr enw modern. Ychwanegwyd yr elfen field mewn Saesneg Canol. Cyfeirir at y ddinas ym marddoniaeth Hen Gymraeg fel Caer Lwytgoed, yn adlewyrchu tarddiad yr enw (Williams 1945: 6).

Cedwir Llyfr Sant Chad, llawysgrif Ladin sy'n cynnwys y darn hynaf Cymraeg ysgrifenedig mewn llyfr sydd wedi goroesi, yng nghadeirlan Caerlwytgoed.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Amgueddfa Samuel Johnson
  • Eglwys gadeiriol
  • Palas yr esgob
  • Theatr Garrick
  • Erasmus Darwin

Enwogion

golygu

Gweler hefyd

golygu

Ffynonellau

golygu
  • Ifor Williams, Enwau lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945).

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 8 Medi 2020
  2. City Population; adalwyd 8 Medi 2020