Sgwrs:Taekwondo

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Symud i 'taegwondo'

Symud i 'taegwondo' golygu

Dw i'n cynnig cywiro'r erthygl gan ei symud i taegwondo.

  1. Nid oes llythyren 'k' yn y Gymraeg.
  2. Nid yw 'taekwondo' yn enw priod, felly does dim rheidrwydd i gadw at sillafiad yr iaith brodorol - Coreeg - nag unrhyw ffurf nag iaith arall.
  3. Mae'r llythyren Cymraeg 'g', yn wahanol i 'k', yn cydymffurfio â threfn swyddogol Corea o drawsysgrifio o'r wyddor hangeul i'r wyddog lladin.

Mae'r 'k' yn y ffurf Saesneg yn dod o'r hen drefn McCune-Reischauer o drosi eiriau Coreeg i ffurf ysgrifenedig gyda'r wyddor Lladin. Tra bod Gogledd Corea yn dal i gadw yn bennaf i'r dull yma ('thaekwondo'), mae De Corea wedi symud i system newydd (yn 2000) sy'n defnyddio'r llythyren 'g' am y sain yn 'taekwondo' yn hytrach na 'k'. Mae'r llythyren Coreeg 'ㅋ' yn cyfleu sain ac ynganiad /k/ caled ac felly yn cael ei thrawsysgrifio fel 'k'. Ond llythyren arall sydd yn '태권도'. Mae gan 'ㄱ' sain llai caled - rhywle rhwng /g/ a /k/, yn dibynnu ar ei lleoliad o fewn gair. Serch hyn a'r newid i'r drefn, mae'r 'k' yn parhau yn y gair 'taekwondo' yn Saesneg a nifer - ond nid pob un - iaith arall oherwydd ei defnydd cyffredin ers amser hir. Dyw hynny ddim yn rheswm i barhau i ddefnyddio'r 'k' yn y ffurf Cymraeg am nad oes 'k' yn yr iaith Gymraeg. --Cymrodor (sgwrs) 13:30, 29 Mai 2018 (UTC)Ateb

Cytuno! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:27, 30 Mai 2018 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Taekwondo".