Oes angen dwy erthygl (Taiwan a Gweriniaeth Tsieina)? golygu

Sylwaf ar y en:wiki bod en:Republic of China (Gweriniaeth Tsieina) yn ailgyfeirio at en:Taiwan. Dallt nad oes rhaid dilyn fan'no ar bopeth, a bod yna wahaniaeth rhwng ynys Taiwain ei hun a Gweriniaeth Tsieina (ychydig fel fel ynys Prydain a'r DG mewn ffordd). Dw i yn gweld gwerth mewn gwhanau endidau daearyddol a gwleidyddol, mond gofyn y cwestiwn ydw i. --Ben Bore (sgwrs) 07:19, 14 Mehefin 2012 (UTC)Ateb

Ac eto, mae yna erthygl ar en:wiki o'r enw en:Free area of the Republic of China sy'n egluro ychydig ar ei statws. OK. gwell cadw pethau fel mae nhw am rwan a gweld sut ddatblygith pethau! Sori am hel sgwarnogod (ydy hynn'an ddywediad?. --Ben Bore (sgwrs) 07:33, 14 Mehefin 2012 (UTC)Ateb
Sori, fi eto. Dallt mae ar ganol datblygu'r erthygl wyt ti, ond mae rhai anghysonderau yn amlygu eu hunain. Ar yr erthygl hon, mae'n nodi:
Ei chymdogion yw [[Gweriniaeth Tsieina|Tsieina]] i'r gorllewin...
Baswn i'n awgrymu ei newid y ddolen wici i [[Gweriniaeth Pobol Tsieina]] os mai cyfeirio at wladwriaethau, neu jyst [[Tsieina]] os mai cyfeirio at diroedd ydym.
Hefyd, mae cynnwys y wybodlen yn gymysglyd. Ar yr erthyl yma (sef yr ynys ei hun), yr enw ydy 'Gwladwriaeth Tsieina', tra yn wybodlen yr erthyg am yr endid wleidyddol, 'Gweriniaeth Tsieina' mae'n cael ei alw. baswn i'n awgrymu mai mond 'Taiwan' ddylai hwn fod os mai am yr ynys ei hyn ydy'r erthygl. Yn ail, mae anghysondeb ynglyn ag arwynebydd, e.e. yn y wybodlen ar yr erthylg yma (sef ynys Taiwan yn unig), rhoddir arwynebedd fel 36,193 km2, ond ar erthygl Gweriniaeth Tsieina (sy'n cynnwys ynys Taiwan ac ynysoedd eraill), mae'r cyfanswm arwynyebedd rhywsut yn llai, sef 35,980 km²! --Ben Bore (sgwrs) 09:07, 14 Mehefin 2012 (UTC)Ateb
Diolch Ben. Fy mwriad oedd copio en drwy ailgyfeirio "Gweriniaeth Tsieina" i "Taiwan". O ran anghysondeb arwynebedd: ceir ffynhonnell yr erthygl newydd a dyddiad (Ebrill 2012) ond does dim ffynhonnell ar yr hen erthygl.
Un peth arall sy'n mynd i effeithio ar lawer iawn o'n gwybodlenni ni yma ar Wici-cy ydy Metadata; mi rois sylw arno yn y Caff; mi fydd hyn yn ddatblygiad chwyldroadol i wicis bach fel ni, gan y bydd y data ei hun yn cael ei storio yn ganolog ac yn cael ei adnewyddu'n otomatig. Ar hyn o bryd mae peth data sydd gennym yn hen fel pechod ac angen ei adnewyddu. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:36, 14 Mehefin 2012 (UTC)Ateb
Methais y sylw am metadata, ond mi fyddai hynny wir yn fendith.--Ben Bore (sgwrs) 11:41, 14 Mehefin 2012 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Taiwan".