Sgwrs:Tomos yr Apostol

Latest comment: blwyddyn yn ôl by Deb in topic Enw

Enw golygu

@Deb: Pam yn y byd wyt ti wedi symud y dudalen wnes i ei chreu? Ym Meibl William Morgan a Beibl Cymraeg Newydd, "Thomas" yw ei enw, nid "Tomos". (Mae beibl.net yn defnyddio Tomos, mae'n wir. Ond dwy i ddim yn meddwl mai dyna'r pren mesur y dylen ni ei ddefnyddio.) Nid yw'r erthygl hyd yn oed yn gwneud synnwyr mwyach gyda'r pennawd hwnnw, oherwydd mai "Thomas" yn ymddangos yn y testun. Craigysgafn (sgwrs) 10:23, 21 Hydref 2022 (UTC)Ateb

Ffynnonellau Cymraeg fel 'ma. Deb (sgwrs) 13:41, 21 Hydref 2022 (UTC)Ateb
@Deb: Mae ffynonellau Cymraeg eraill sy'n defnyddio "Thomas", ac maen nhw'n deillio o'r Eglwys yng Nghymru hefyd, e.e. Calendr Newydd Diwygiedig a'r Colectau Cyfoes - 2022. Roeddwn i'n bwriadu llenwi bylchau yn yr erthyglau ynglŷn â'r Testament Newydd ac roeddwn i'n meddwl y byddai'n egwyddor synhwyrol i gydffurfio â ffurfiau enwau yn y Beibl. Wyt ti wedi mynd â'r gwynt o fy hwyliau braidd. --Craigysgafn (sgwrs) 22:44, 25 Hydref 2022 (UTC)Ateb
@Craigysgafn: Dyma sut dw i'n ei weld: "Thomas" yw sillafiad Saesneg yr enw. Efallai byddwch chi'n disgwyl hyn mewn Beibl o’r 16eg ganrif. Fel arfer, os oes gennym gyfyng-gyngor fel hyn, byddem yn edrych ar enw gwreiddiol y sillafiad yn yr iaith frodorol. Byddem ni'n trawslythrennu oddi yno pe bai angen. Ymddiheuriadau am fy Nghymraeg druan. Deb (sgwrs) 07:53, 26 Hydref 2022 (UTC)Ateb
@Deb: Yn ym marn i, nid enw Saesneg yw "Thomas". Trawslythreniad o'r Groeg yw e, a dyna'r ffurf mae sawl iaith arall yn ei defnyddio, gan gynnwys Ffrangeg ac Almaeneg. Ac mewn cyd-destun Cymraeg nid sillafiad hynafol yn unig ydyw e chwaith. Mae'r dyfyniadau o'r Beibl a ddefnyddiais yn yr erthygl yn dod o Feibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004. Mi fyddwn i wedi bod yn gwbl hapus i gynnwys "Tomos yr Apostol" ymhlith y dewisiadau eraill ar y dechrau, ac a dweud y gwir mi ddylwn i fod wedi meddwl gwneud hynny ar y pryd. Mae'r newid i'r pennawd yn dal i ymddangos yn ddiangen i mi, ond gadawa'r peth fel y mae. Dafydd. --Craigysgafn (sgwrs) 11:50, 26 Hydref 2022 (UTC)Ateb
A fyddai'n well cael barn gan Defnyddiwr:Llywelyn2000? Deb (sgwrs) 15:04, 26 Hydref 2022 (UTC)Ateb
Pe bawn i wedi sgwennu'r erthygl, mi faswn wedi sgwennu'r teitl fel 'Thomas'; ond o feddwl dros nos, dw i'n gweld dim o'i le yn moderneiddio'r gair, gan fod pob Tomos dw i'n ei nabod bellach yn defnyddio'r Cymreigiad a bod cynsail / ffynhonnell dros hynny. Yn anffodus, tydy naill ai Wicipedia:Arddull na Wicipedia:Canllawiau iaith yn fawr o help! Mae pwynt Craig mai dim ond llond dwrn o ieithoedd allan o tua 60 sy'n defnyddio'r dull ffonetig o 'Thomas' yn gywir ac yn gwneud i rywun feddwl. Be fyddai'r ynganiad Lladin? Ond o edrych ar Wicidata o dan 'Tomos yr Apostol' fe welwn fod llawer rhagor yn defnyddio'r amrywiad ffonetig 'Tomos' neu ei debyg.
Yr hyn sydd bwysicaf, efallai, ydy - a yw'r darllenydd yn mynd i ddeall pa un yw 'Tomos yr Apostol'? Ac mi fydd.
Mae'n bwysig trafod teitl erthygl gyda'r awdur a'i rhoddodd ar wici cyn ei newid, ac mae Craigysgafn yn cynnig ei adael yn y ffurf fodern 'Tomos', chwarae teg.
I grynhoi: mae llawer mwy o gyfeiriadau at 'Thomas', ond mae 'Tomos' i mi'n ddewis gwell, mwy Cymreig. Gan mai Craigysgafn gychwynodd yr erthygl, efallai mai ganddo yntau hefyd mae'r gair terfynol, gan fod hi'n chwech i un, a hanner dwsin i'r llall! Diolch am erthygl dda, ddefnyddiol! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:48, 27 Hydref 2022 (UTC)Ateb
Barn ddoeth Solomon! (Gweler Brenhinoedd 3:16–28)
Defnyddiais "Thomas" yn wreiddiol oherwydd dyna'r ffurf a welais yn yr holl lyfrau roeddwn yn eu defnyddio ar y pryd. Ond dydw i ddim yn ysgolhaig beiblaidd nac yn weinidog yr efengyl, felly beth ydw i'n ei wybod? Gadewch inni ddefnyddio "Tomos".
"Tomas", gyda llaw, yw'r ynganiad Lladin. Doedd dim sŵn /θ/ yn Lladin, ond mynnodd yr hen Rhufeiniaid ddangos mai gair o darddiad Groeg ydoedd trwy ygrifennu "th". Arnyn nhw mae'r bai. Craigysgafn (sgwrs) 21:58, 27 Hydref 2022 (UTC)Ateb
;-) Diddorol am y Rhufeiniaid / Iaith Roeg! Os ddoi ar draws un mi roi bryd o dafod iddi! BOT-Twm Crys (sgwrs) 08:57, 28 Hydref 2022 (UTC)Ateb

Nid oes ots gennyf fi cyn belled â bod ailgyfeiriadau lle mae angen. Deb (sgwrs) 16:35, 29 Hydref 2022 (UTC)Ateb

Nôl i'r dudalen "Tomos yr Apostol".