Sgwrs:Y rhyngrwyd Gymraeg

Latest comment: 12 o flynyddoedd yn ôl by Rhodri ap Dyfrig

Credu dylai hon gael ei fflagio ar gyfer diweddaru. --Rhodri ap Dyfrig 15:43, 12 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb

Pwy gwell na thi? Ymlaen! Llywelyn2000 05:58, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Ella na mhwynt i ydi, oes na restrau o erthyglau ar bynciau penodol sydd angen diweddaru / ychwanegu y gall pobol gyfeirio ato a rhannu er mwyn gallu cael mwy o bobol yn gwneud y gwaith / golygu ayyb? --Rhodri ap Dyfrig 12:09, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Ar erthyglau hynnod fyr neu anghyflawn, maen't (i fod) i gael eu tagio fel Eginyn. Dyma fam gategori eginau am Gymru - mae digon o ddewis! Dw i'n cymryd bod ti'n gyfarwydd a'r rhestr erthyglau sydd eu hangen ymhob iaith. 'Sdim un ar gyfer pethau Cymraeg/Cymreig - tra byddai'n syniad, mae'n debyg y meddylfryd ydy, os credwch bod eisiau rhywbeth, bwrwch ati. Ond dw i'n deall byddai rhywbeth i 'ysbrydoli' yn help. Dyna pam hoffwn weld rhywbeth fel WikiProjects sydd ar en. Baswn i'n dechrau un o gwmpas pethau fel Eisteddfod Genedlaethol, Cerddoriaeth Cymraeg, Rhaglenni teledu i blant ar S4C, Capeli Cymru, ayyb fel pynciau gall pobl sydd a gwir ddiddordeb gael eu dannedd iddynt.--Ben Bore 20:41, 13 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Diolch am yr esboniad Ben. Mae ffeindio pethau ar Wicipedia bron yn amhosib dwi'n ffeindio. Doedd gen i ddim clem beth oedd eginyn, na bod modd gweld rhestr ohonyn nhw. Mae WikiProjects yn swnio fel ffordd dda o gael pobol i weithio ar rhywbeth penodol. Dwi'n teimlo bod na lot o waith i wneud gyda'r sdwff cyfryngau Cymraeg a rhyngrwyd Cymraeg yn gyffredinol, ella bydda hwnna'n un da i arbrofi efo fo? Prosiect i'w ddechrau yn Hacio'r Iaith efallai? Ma'n ffordd o beidio taenu adnodd dynol (prin) Wicipedia yn rhy denau ac o ysbrydoli fel ti'n deud. --Rhodri ap Dyfrig 10:43, 16 Rhagfyr 2011 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Y rhyngrwyd Gymraeg".