Y rhyngrwyd Gymraeg

Mae'r erthygl hon yn sôn am ddatblygiad a phresenoldeb y Gymraeg ar y rhyngrwyd, ac yn hwyrach y we fyd-eang.

Yng Ngorffennaf 1969, fe ysgrifennodd Owain Owain yn Y Cymro: Yn syml, mae'r [cyfrifiadur] yn ei gwneud hi'n bosibl cofnodi'r cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno...[1]

Yn ôl ymchwil diweddar[2], postiwyd y neges gyntaf ag unrhyw destun Cymraeg ynddi ar Usenet ar y 15fed Awst, 1989[3]. Ar y 13eg o Dachwedd, 1992 agorwyd y rhestr ebost WELSH-L, sef y Welsh Language Bulletin Board[4]. Hwn oedd y man trafod cyntaf penodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg. Ers hynny, gwelwyd defnydd o'r Gymraeg mewn nifer o faesydd ar rhyngrwyd, ac yn arbennig felly ar y we.

Bu Gwasg y Lolfa, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn flaenllaw yn y dyddiau cynnar

Llenyddiaeth ar y we

golygu

Mae llenyddiaeth Gymraeg wedi hawlio ei le ar y we hefyd. Yn 1996 rhoddwyd holl farddoniaeth y Prifardd Robin Llwyd ab Owain ar y we fyd eang dan yr enw Rebel ar y We[5]; dyma oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg ar y rhyngrwyd.[6][7]

Cyfryngau Cymdeithasol

golygu

O ran y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg, mae dros 607 o flogiau Cymraeg[8] wedi eu cofnodi gan Hedyn.net erbyn Mawrth 2014, a thua 14,000 o gyfrifon yn defnyddio Cymraeg ar Twitter[9] hefyd ym Mawrth 2014. Nid yw'n glir beth yn union yw'r defnydd o Facebook ond adnabu ymchwil yn 2008[10] 238 grŵp Facebook lle roedd defnydd o'r Gymraeg.

Gwasanaethau Cyhoeddus Arlein a Dwyieithrwydd

golygu

Yn sgil goblygiadau Deddf Iaith 1993 mae'r sector gyhoeddus yng Nghymru yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog. Mae rhai busnesau a chymdeithasau, yn enwedig y rhai mawrion a'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gymraeg hefyd yn cynhyrchu gwefannau dwyieithog, yn ôl eu polisi iaith unigol eu hunain.

Enghreifftiau o wefannau am y Gymraeg, neu yn y Gymraeg

golygu

Cyfeiriadau

golygu