Sgwrs:Ymerawdwr Glân Rhufeinig

Latest comment: 13 o flynyddoedd yn ôl by Anatiomaros

Mae rhywbeth yn chwithig iawn yn yr enw yma! Ysgol Dinas Bran 13:10, 29 Mehefin 2010 (UTC)Ateb

Dyma'r enw Cymraeg safonol, hollol gywir. 'Glân' fel yn y term 'Yr Ysbryd Glân', h.y. 'sanctaidd' (holy), a dim byd i wneud â clean. Ceir enghraifft yma gan y BBC. Anatiomaros 21:47, 29 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Diolch Anros. Diddorol iawn, ond onid oes angen gofyn am ffynhonnell y dystiolaeth ei fod yn lanach na gwyn? Ai gwir ei fod yn defnyddio sebon carbolic? Efallai ei bod yn bryd diweddaru'r enw i un mwy ystyrlawn? Llywelyn2000 22:44, 29 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Ond dydy o ddim i fyny i ni fel wicipedwyr wneud hynny achos dyna ydy'r enw Cymraeg. Beth am fathu term arall yn lle 'Ysbryd Glân' hefyd? Mae 'Ymerawdwr Glân Rhufeinig' ac 'Ymerodraeth Lân Rufeinig' yn dermau safonol ac maen nhw'n ddigon da i John Davies yn Hanes Cymru, er enghraifft (tt. 149, 219; t. 96).
Gyda llaw, sebon Catholig roedd o'n iwsio, wrth gwrs: camgymeriad dybryd yw'r diweddariad 'carbolig'. Yn anffodus does dim tystiolaeth i ddangos ei fod yn effeithiol o gwbl. :-) Anatiomaros 23:15, 29 Mehefin 2010 (UTC)Ateb
Ha! Fel y dywedodd yr hen emynydd:
Golch fi fy Nuw, golch fi yn lân
'Nenwedig golch fi lle rwy'n wan...
dw i'n derbyn yr hyn a ddywedi am ein rol fel Wicipedwyr. Ond Och, saith och! Llywelyn2000 04:59, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Fel 'na mae hi. Hanes ydy hanes a chonfensiwn ydy confensiwn: nid ar chwarae bach mae eu newid. Dwi wedi arfer efo'r term, mae'n debyg, ac yn ymwybodol o'r ail ystyr hefyd. Dwi ddim yn siwr y byddai 'Sanctaidd' neu rywbeth tebyg yn llawer o welliant beth bynnag achos go brin fod llawer o seintiau yn eu plith! Mae'n debyg mai 'Ymerawdwr Aflan Rhufeinig' fyddai dewis Pantycelyn... Anatiomaros 23:26, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ymerawdwr Glân Rhufeinig".