Sgwrs:Ysgol Gynradd Adamsdown

Latest comment: 10 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000

Newidiwyd yr enw gan mai Ysgol Gynradd Adamsdown yw'r ffurf sywddogol (gwefan yr ysgol a Chyngor Caerdydd) Troellwr (sgwrs) 21:01, 29 Mehefin 2013 (UTC)Ateb

Os felly, dwi'n cytuno gyda symud y dudalen hon i unig enw swyddogol yr ysgol. Ond dwi'n llai argyhoeddedig fod cyfiawnhad dros symud y dudalen Waunadda ei hun i Adamstown am fod Cyngor Caerdydd ayyb yn ei galw yn 'Adamstown' yn unig yn swyddogol. Ar un adeg roedd hynny'n wir am nifer o enwau llefydd Cymraeg - "Caernarvon" yn unig yn lle Caernarfon, er enghraifft. Be sy'n bwysig i ni yma ydy pa ddefnydd ymarferol a wneir o'r ffurf Gymraeg; os nad yw'n cael ei ddefnyddio gan neb o gwbl ar wahân i Geiriadur yr Academi a Gwyddoniadur Cymru mae'n bosibl dadlau mai ffurf academaidd diweddar yn unig ydyw, efallai, ond ar y llaw arall... Bydd rhaid ymchwilio i'r defnydd ar y we a mewn print. Anatiomaros (sgwrs) 22:48, 29 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Mewn cyfarfod o bwyllgor Cymdeithas Enwau Llefydd Cymru fis yn ol ym Mhlas Tanybwlch, fe gododd Swyddog enwau Powys ac un o weithwyr Canolfan Bedwyr fod Wici-cy yn anghyson a bod angen cadw at y fersiwn cenedlaethol, "safonol" a awgrymir gan y pwyllgorau hyn - a chyrff eraill sy'n defnyddio'n slafaidd y ffurfiau hyn ee y Gwyddoniadur, y Cyfrifiad. Son am gymunedau Cymru oeddem, nid pentrefi unigol. Y perygl i Wici-cy dderbyn ffurfiau lleol ydy y byddem yn colli ein hygrededd. Mae'n holl bwysig ein bod yn derbyn y ffurf safonol, waith beth ydy'r dadleuon lleol. Nid barn bersonol ddylid ei chynnwys yn wici ond y farn safonol. Fy hun, mae "Waunadda" yn gyfieithiad naturiol a da a dylid ymgyrchu i'w hyrwyddo a'i dderbyn. Ond nid Wici yw'r llwyfan i wneud hynny. Ar sail hyn, ar sail y ffaith mai "Adamsdown" yw'r ffurf a argymhellir gan y Gymdeithas newydd, dylem dderbyn "Adamsdown" ar Wici-cy. Mae Cyngor Gwynedd (fel Cyngor Caerdydd) yn anghytuno gyda'r pwyllgor enwau llefydd, ar adegau, a bydd yn rhaid i ni wynebu'r dadleuon hynny fel y codant; ond os sticiwn i gyda'r penderfyniad o dderbyn argymhelliad yr arbenigwyr cenedlaethol, yna mi fyddwn gyson ac yn ddiduedd. Llywelyn2000 (sgwrs) 09:21, 30 Mehefin 2013 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Ysgol Gynradd Adamsdown".