Sgwrs Categori:Troseddwyr Cymreig

Latest comment: 15 o flynyddoedd yn ôl by Alan012 in topic Pwy sy'n droseddwr?

Pwy sy'n droseddwr? golygu

Dwi'n credu fod angen bod yn ofalus iawn gyda pha enwau sy'n cael eu cynnwys yn y categori hwn. Awgrymaf: dim un person byw. Llywelyn2000 23:48, 13 Ionawr 2009 (UTC)Ateb

Cytuno, neu o leiaf "dim un person byw oni bai eu bod yn droseddwyr proffesiynol" (llawn amser, fel petai). Mae aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi bod yn y carchar - ydyn nhw'n "droseddwyr"? Mae gwahaniaeth rhwng "pobl a garcharwyd" a "throseddwyr". Anatiomaros 00:10, 14 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Neu, rhwng pobl sy'n torri'r gyfraith am resymau gwleidyddol/moesol ayyb a'r "criminal" cyffredin. Anatiomaros 00:11, 14 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Mae hen sgwrs yn y caffi am y categorïau hynny -- gweler Wicipedia:Y Caffi#Cyfieithiad plis? Dwi'n awgrymu newid yr enw i "Cymry a gafwyd yn euog o drosedd". Gyda'r newidiad hwn, basai'r teitl yn fwy niwtral, heb awgrymiad bod y person yn droseddwr llawn-amser neu broffesiynol -- ac felly fasai ddim unrhyw reswm pam lai i ni osod aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn y categori hefyd. Yr unig faen prawf fasai: ydy'r trosedd yn nodadwy? -- h.y. peidiwn ni â rhoi sylw am droseddau nad ydynt wedi eu cyhoeddi yn y wasg neu ffynonellau tebyg. Alan 10:13, 14 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Cefnogi awgrym Alan i symud y categorïau priodol i "... a gafwyd yn euog o drosedd" (er fe greais y categori yma fy hunan!). Mae'n ffordd niwtral a ffeithiol o gyfeirio at bobl. Gall y term "troseddwr" arwain at ddadleuon hir a ffyrnig dros a yw cymeriadau megis Joe Doherty a Mumia Abu-Jamal, neu hyd yn oed Oscar Wilde, yn "droseddwyr". —Adam (sgwrscyfraniadau) 13:43, 14 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Diolch. Af i ati ar ôl y penwythnos os fydd ddim gwrthwynebiad oddi wrth defnyddwyr eraill erbyn hynny (ac os cofiaf!) Alan 23:33, 16 Ionawr 2009 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Troseddwyr Cymreig".