Croeso i Wicipedia! Diolch am dy olygiad. O be wela i, mae na dafarn yn Llangoed o'r enw 'Tafarn Y Rhyd', felly dwn i ddim pam y gwnest ddileu'r ffaith fod tafarn yno, a'r Wybodlen ar yr un pryd. Neu ydw i'n methu rhywbeth? Paid a phoeni, dw i'n meddwl mai cangymeriad gen ti oedd o. Mi wnaeth un o'n Gweinyddwyr ni (DafyddT) ei newid yn ol, chwarter awr wedi i ti ei ddileu. Mae codio ar Wici'n hawdd, ond mae na ddyfnder anhygoel, pe baet am fynd i fewn i SPARQL ayb. A phopeth am ddim ar drwydded agored! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:47, 18 Chwefror 2019 (UTC)Ateb