Croeso gyfaill! Llywelyn2000 (sgwrs) 19:07, 3 Hydref 2018 (UTC)Ateb

Iaith golygu

Cyn mynd ati i greu rhagor o erthyglau, fedri di ailedrych ar y rhai rwyt eisioes wedi eu creu - ac ar fy nghywiriadau i hefyd - i weld beth sydd ei angen. Gelli weld y rhain dan y tab 'Gweld yr hanes' e.e. yma. Awgrymaf hefyd dy fod yn ei greu ar dy Bwll Tywod, nes ei bod wedi ei gwiro (gelli ddefnyddio gwirydd sillafu). Ond braf gweld themau cyfoes, a ffilmiau fel hyn! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:20, 15 Ionawr 2019 (UTC)Ateb

Symudwyd yr erthygl i dy Bwll Tywod gan fod na llawer o waith cywiro arni. Wedi i ti gael cyfle i wneud hynny, gad neges ar fy nhudalen sgwrs i os gweli di'n dda. Llywelyn2000 (sgwrs) 07:39, 19 Ionawr 2019 (UTC)Ateb

The Lego Movie golygu

Gwych! Mae'n syniad da gwneud hyn, fel drafft. Y tro yma dw i wedi cynnig ychydig o gywiriadau o ran iaith; y tro nesaf, beth am gopio'r testun i Cysill i'w wiro, cyn rhoi cod wici i fewn. Dau beth bach arall i ti ei wneud cyn ei roi yn y prif barth (erthyglau):

  1. Ychwanegu cyfeiriadau (refs) o en-wici (copio a phastio) a
  2. ychwanegu categoriau ar y gwaelod. Unwaith eto fe weli rhain ar yr erthygl Saesneg. gellid eu dilyn i'r categori Gymraeg, ei gopio a'i roi yng ngwaelod dy erthygl di,

Os cei drafferth, dos i'r [Wicipedia:Tiwtorial:Adran Gymorth|Adran Gymorth], lle mae na amsell fideo byr yn dangos sut i wneud. Wedi i ti orffen, croeso i ti roi'r erthygl yn y prif barth! Pob hwyl arni! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:00, 1 Chwefror 2019 (UTC)Ateb