Diolch i bawb am eich negeseuon - Thank you all for your messages


Croeso mawr!

golygu

Dwi'n ysgrifennu'r hon i'ch croesawu chi o galon i'r prosiect. But I'll continue this message in English because I'm a learner myself...

It would be fantastic if you are able to contribute to the English and/or Welsh language Wikipedia projects in the way that you suggest. Particularly the Welsh language project, which is still currently quite a small one, could really use the help.

A couple of pointers that may be useful to you: firstly, it is worth distinguishing at an early stage between the "wikisource" project, which is designed as an archive for source materials that can appropriately be placed under the GFDL licence (e.g. that are currently out of copyright), and the "wikipedia" project, which is for encyclopaedia articles. You are of course very welcome to contribute to both of these projects, and both exist in both languages although the Welsh wikisource is currently quite thin (for wikisource, see English, Welsh).

The other thing worth drawing to your attention is that, at least on the English language wikipedia, there is a general rule against "role" accounts, i.e. each account should be operated by a single individual, though of course each individual is of course very welcome to identify with the overall NLW contribution. I imagine that on the Welsh language site we would not be too fussed about imposing such a rule, but you should at least be aware that on the English site you would probably not be allowed to operate under a general NLW username.

Very best wishes. I am delighted that you are offering to help the project in this way.

Dymuniadau gorau, Alan 09:00, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb


Diolch am eich neges Alan - Thank you for your message. We've spent a fair amount of time looking at how we might relax our rights to allow reuse on Wikipedia/Wicipedia and we will be closely monitoring reactions to this in order to gauge what kind of path the National Library might take in the future in terms of sharing content about Wales (both with Wikipedia/Wicipedia and other sites).
On your second point - thanks! I have applied for this account to be changed (on en.wikipedia and shortly on cy.wikipedia) and any other staff adding images will also have their own personal accounts. We'll have to think of more ways to 'link' all this work together so that we don't have separate discussions taking place on several user talk pages, I think. Diolch Llyfrgell Genedlaethol Cymru 09:35, 1 Awst 2008 (UTC)Ateb


Am syniad ardderchog, dw i'n wir gredu y dylai sefydliadau cyhoeddus ei wneud mor hawdd a phosib i'r cyhoedd gael mynediad i a bod â'r hawl ail-ddefnyddio eu gwaith. Mae Alan wedi esbonio'r sefyllfa drwyddedau hawlfraint yn well nag y gallwn i wneud, ac mae'r Wikiopedia Saesneg yn llym iawn wrth ond caniatau defnyddio delweddau sydd â thrwyddedau arbennig.
Efallai byddai o werth gadael neges tebyg i'r hyn adawsoch yn Y Caffi ar y Welsh Wikipedians notice board, on dan eich enw eich hun (ney lys enw) yn hytrach na'r sefydliad.
Ar nodyn llai pwysig, ar eich tudalen defnyddiwr, mae'r ddolen yn y testun Cymraeg at Gasgliad John Thomas yn arwain at y dudalen Saesneg, er bod tudalen Cymraeg yn bodoli ar wefan y Llyfrgell Genedalethol. Gallaf newid y ddolen fy hun, ond dw i ddim yn hoffi golygu tudalennau defnyddiwyr. --Ben Bore 12:48, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb


Diolch Ben. Dwi wedi gadael neges ar dudalen Sgwrs 'Welsh Wikipedians notice board' ond mae'r ymateb wedi bod yn dawelach nag Y Caffi! Diolch am eich cywiriad - mae hyn wedi'i drwsio nawr. National Library of Wales 10:36, 1 Awst 2008 (UTC)Ateb


Hoffwn ategu'r sylwadau uchod a'ch croesawu fel sefydliad i'r Wicipedia Cymraeg. Rydym yn wir obeithio mae cam cyntaf yw hwn mewn proses o ehangu cynnwys y Wicipedia Cymraeg a'i throi'n adnodd addysgol werthfawr. Credaf fod gwir angen hynny yn y Gymraeg a bod y botensial (a'r sialens!) yn anferth. Un o'r pethau sy'n drist braidd wrth greu erthyglau o ddiddordeb Cymreig ar hyn o bryd ydyw'r diffyg delweddau mewn cymhariaeth â'r hyn sydd ar gael yn achos erthyglau am hanes a diwylliant Lloegr, a gwledydd eraill, ar y wicipedia Saesneg. Byddai cael yr hawl i ddefnyddio rhan o gasgliad John Thomas, gan barchu gofynion hawlfraint wrth gwrs, yn gaffaeliad i ni. Diolch o'r galon. Anatiomaros 14:53, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb


Diolch am eich sylwadau! Ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld canlyniadau'r peilot. National Library of Wales


Gaf finnau ategu’r sylwadau cynt, bod y fenter newydd hon i’w chroesawu. Rwyn mawr obeithio y gall fod o fudd i Wicipedia ac i’r Llyfrgell. Fe ffoniais y Llyfrgell er mwyn cael rhagor o wybodaeth am eu cynlluniau a dyma grynodeb o’r pwyntiau a drafodwyd (I would like to agree with the above comments, that this venture is welcome news. I hope that this can be of benefit to both Wicipedia and the library. I phoned the library to get some more information on their plans and this is a summary of some of the points that were mentioned):

Cyfnod y gwaith peilot

Bydd y gwaith yn dechrau fory, dydd Llun 3 Awst am gyfnod o fis. (work starts tomorrow, Monday 3rd August for a month)

Trwydded cyhoeddi’r gwaith

Yn ystod cyfnod y cynllun peilot fe fydd y Llyfrgell yn rhyddhau lluniau o dan trwydded sydd ddim yn hollol rydd. Rwyn credu mai’r trwydded ‘i’w ddefnyddio ar Wicipedia yn unig’ ac ‘i’w ddefnyddio ar Wikipedia (Saesneg) yn unig’ yw’r trwyddedu y maent wedi penderfynu defnyddio. (LlGC: Cywirwch fi os na ddeallais yn iawn pa drwydded yn union y byddwch yn ei ddefnyddio). Dyna pam nad ydynt yn llwytho ar Gomin Wikimedia. Eu rheswm dros wneud hyn, os deallais yn iawn, yw ‘lack of room to manouvre’ lle mae hawlfraint y Llyfrgell yn y cwestiwn. Mae hyn yn golygu na fydd y prosiectau mewn ieithoedd eraill yn gallu copïo’r lluniau i’w herthyglau hwythau. Gan mai dyma’r sefyllfa fel ag y mae, mae angen i ninnau yn Wicipedia ystyried yn ystod cyfnod y peilot am y canlyniadau posibl o gael delweddau nad ydynt yn rhydd ar Wicipedia. Mae’n rhaid pwyso a mesur a ydy manteision cael y lluniau hyn yn ennill ar yr anfantais nad yw’r trwydded yn un hollol rydd. Er mwyn sicrhau bod cymaint o’r gymuned â phosib yn gwybod am y drafodaeth byddaf yn copïo hwn i’r Caffi.

Problem gyda’r ffurflen uwchlwytho ffeiliau ar Wicipedia

Nid oedd y blwch dewis trwydded yn ymddangos ar y ffurflen uwchlwytho ffeiliau ar Wicipedia. Rwyf wedi cywiro hwn trwy gopïo’r ddewislen o Wikipedia Saesneg ac wedi rhoi nodyn amdano ar y Caffi. Nid oes amser wedi bod gennyf i fentro defnyddio’r ffurflen fy hunan felly os bydd unrhyw broblemau gyda’r uwchlwytho rhowch wybod fan hyn – siawns y gwnaiff rhywrai ohonom fynd ati i ddatrys unrhyw broblemau technegol cyn gynted ag sy’n bosib. Mae’n bosib bod angen gosod nodiadau ar gyfer y gwahanol drwyddedi ar Wicipedia cyn y byddant yn gweithio.

Rwyf wedi meddwl am rai pwyntiau eraill i’w hystyried a byddaf yn postio rheiny ar y Caffi neu fan hyn, lle bynnag sydd fwyaf addas, pan gaf gyfle. Lloffiwr 11:22, 3 Awst 2008 (UTC)Ateb

Delweddau sydd eu hangen

golygu

Awgrymwch unrhyw dudalennau a fyddai angen delweddau yma

Gan fod llenyddiaeth Gymraeg yn un o'm prif ddiddordebau, dyma'r dosbarth cyntaf o ddelweddau sy'n dod i'r meddwl lle gallai'r Llyfrgell Genedlaethol ein cynorthwyo. Hoffwn dynnu eich sylw yn arbennig at yr erthyglau yn y categorïau hyn : Llawysgrifau Cymreig (nifer ohonyn nhw yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol), Llenorion Cymraeg (a'r is-gategorïau, e.e. Beirdd Cymraeg) a'r llyfrau printiedig cynnar yn y categori Llyfrau Cymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'r ychydig luniau sydd gennym yn sgans o luniau mewn hen lyfrau (rydym yn parchu hawlfraint ac felly dim yn medru defnyddio llluniau o lyfrau diweddar) ac felly heb fod o safon arbennig o dda gan amlaf. Anatiomaros 15:17, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

Diolch Anatiomaros - Hoffwn glywed unrhyw awgrymiadau o'r gymuned a byddwn yn ceisio ymateb! Os nagych chi'n malio, dwi wedi benthyg eich neges i ddarparu lle i bobl wneud awgrymiadau tebyg Llyfrgell Genedlaethol Cymru 10:48, 1 Awst 2008 (UTC)Ateb
Iawn gen i, dyna oedd y syniad, mae'n debyg. Mae 'na sawl ffigwr adnabyddus o Gymru yma heb ddelwedd - gormod o lawer i'w rhestru. Hefyd mae gennym lun arbennig o wael o Saunders Lewis - sganwyd gennyf fi o lun du a gwyn aneglur o faint stamp post ar gefn llyfryn o'r 1930au! - sydd angen un gwell yn ei le. Anatiomaros 17:16, 1 Awst 2008 (UTC)Ateb
Bydd erthygl am yr hynafiaethydd Humphrey Ffoulkes ar y gweill cyn hir (nid gen i!). Mae casgliad o lythyron Humphrey Ffoulkes gan y Llyfrgell ac fe fyddai’n dda cael llun o un o’r llythyron yn yr erthygl – yn enwedig gan nad oes llun o Humphrey Ffoulkes ei hunan i gael. Gellid defnyddio enghraifft o'i lawysgrifen i gynorthwyo ymchwilwyr i adnabod llythyron eraill o'i waith sydd efallai mewn casgliadau eraill ac heb eto eu hadnabod. Lloffiwr 18:35, 3 Awst 2008 (UTC)Ateb
Ia wir, clywch clywch! A CHROESO i chi yma. Mae lluniau'n werth mil a mwy o eiriau. Yn bersonol mi hoffwn weld rhychwant eang o wahanol themau: rhag ofn i ni ganolbwyntio gormod ar lenyddiaeth! Beth am hen luniau chwaraeon, plant, injans tân, merched mewn gwisgoedd y cyfnod, gwleidyddion - dewch â nhw - er gwaetha manion (biwrocrataidd) megis hawlfraint!!! Llywelyn2000 00:25, 7 Awst 2008 (UTC)Ateb


Fel 'rydych mwy na thebyb wedi sylweddoli rydym wedi cychwyn ychwanegu delweddau i rai tudalennau. Os hoffech awgrymu tudalennau byddai'n elwa cael delweddau mi fyddai'n help, o bosib, i chwilio’r casgliad drwy fynd i’r catalog e-adnoddau , dewis Allweddair ac yna dewis “Casgliad John Thomas” o’r ddewislen gwympo. Diolch! Llyfrgell Genedlaethol Cymru 16:34, 7 Awst 2008 (UTC)Ateb

Er mwyn ei wneud yn haws i gadw tab ar ddelweddau o gasgliad John Thomas (rhag ofn bydd rhaid eu symud/addasu/dileu yn y dyfodol), dw i wedi creu categori Delweddau o gasgliad John Thomas.
Alli di ychwanegu'r canlynol: [[Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas]] ar waelod y dudalen pob tro ti'n ychwanegu delwedd newydd os gweli di'n dda (gweler).--Ben Bore 14:47, 8 Awst 2008 (UTC)Ateb
Er mwyn cael cyn gymaint a phosib o ddeunydd i arbrofi arno yn ystod cyfnod y peilot, efallai y gallech hefyd greu rhestr o ddelweddau yr ydych yn credu sy'n addas, ond nad oes ganddynt erthyglau perthnasol iddynt ar Wicipedia. Gallem ysgrifennu egin erthyglau er mwyn cael rhywbeth i ychwanegu llun ato. Lloffiwr 16:18, 9 Awst 2008 (UTC)Ateb
Rwyf wedi bwrw golwg dros y casgliad ac yn cynnig y canlynol fel posibiliadau, ond heb wneud unrhyw waith i weld a oes lluniau rhydd o'r un gwrthrych (neu gyfnod) ar gael:
  • lluniau o bobl y bydd siwr o fod erthygl bywgraffiadol amdanynt rhywbryd os nad oes yn barod
    • Abraham Rees DD FRS (llun o brint)
    • Thos Jones Dynbych
    • Parch J. Roberts Ieuan Gwyllt
    • John Ceiriog Hughes
    • Revd Dr John Thomas Liverpool
    • Revd J Williams Brynsiencyn
  • lluniau yn dangos pobl wrth eu gwaith mewn erthyglau am y gwaith hwnnw ac erthyglau am y lle
    • Hay making
    • Hughes factory Llangollen
    • Interior of Spring Mills Llanidloes
    • Sheep shearing
    • Life Savers St David's
    • W Evans' boat Llanddulas (Dinb)
    • Liveried servants, Vaynol Hall, Pentir (Caern)
    • Owain Glyndwr Hotel servants Corwen
    • Residents of the almshouses Ysbyty Ifan
  • Liverpool Eisteddfod 1884 ar gyfer erthygl ar yr eisteddfod honno
  • Pantydefaid Ministers mewn erthygl ar yr Undodiaid
  • lluniau o bentrefi fel ag yr oeddynt pryd hynny - detholiad o rai a allent fod o ddefnydd, lle rwyn digwydd gwybod bod y lle wedi newid (neu'n tybied hynny), mewn erthyglau am y lle
    • Parcrhydderch, Llangeitho
    • The promenade and sea wall, Tywyn
    • Rhyd-y-Garnedd ferry, Tywyn
    • The Square, Llangeitho
    • The front of Bethel Chapel, Newcastle-Emlyn
    • The bridge, Llanbryn-mair
    • Afon Teifi at Llechryd
    • On the shore, Conwy
    • Llanwddyn reservoir wall
    • The landing stage, Aberdyfi
    • Llanarmon Dyffryn Ceiriog
  • Oak at Llwynrhydowen where Dafis Castellhywel was ordained a minister, mewn erthygl amdano
  • Beach Road Colwyn
  • The Castle and Cilgwyn Hall, Newcastle Enlyn
  • Group on the Square, St Davids
  • St Davids View of city from an elevated vantage point
  • Crowds attending the unveiling of the Henry Richard monument
    • View of Tregaron from an elevated vantage point
    • Tree growing on the roof of the New Inn, Clynnog Fawr
    • A view of St Dogmaels looking up the High Street (with cart)
    • The Weir, Newcastle Emlyn
    • Workers at the Weir, Newcastle Emlyn
    • Kilns at Llanddulas (Dinb)
    • The church Llanarth
    • The church, Tregaron

Mae ambell i erthygl ar y lleoedd a'r pobl hyn ar gael yn barod - eraill i ddod dros y blynyddoedd. Lloffiwr 18:58, 10 Awst 2008 (UTC)Ateb

Samuel Roberts (S.R., Llanbryn-mair) (yma)? Anatiomaros 23:23, 19 Awst 2008 (UTC)Ateb


Disgwyl pethau gwych i ddyfod... Dwi'n edrych ymlaen (yn ddyddiol) am weld rhagor, ond does dim siw na miw am y lluniau? Beth sydd wedi digwydd? Y rhain sydd at fy nant i:
"lluniau yn dangos pobl wrth eu gwaith mewn erthyglau am y gwaith hwnnw ac erthyglau am y lle."
Diolch - mae’r aelod o staff ‘roedd gennym ym mis Awst wedi’n gadael erbyn hyn ac mae’r Llyfrgell yn ymchwilio sut i symud ‘mlaen gyda hyn yn y dyfodol. Fodd bynnag, ‘rydym yn awyddus iawn i gefnogi gwaith cymuned Wicipedia - sut fyddech chi’n teimlo am ymgymryd â’r gwaith o ychwanegu’r delweddau os cytunwn iddynt gael eu hail-ddefnyddio? Paul Bevan 11:30, 13 Tachwedd 2008 (UTC)Ateb
Paul: ydw i wedi methu rhywbeth? Gafodd y rhestr lluniau (uchod) eu hychwanegu at erthyglau Wici? Mae pawb o blaid hynny. Llywelyn2000 06:47, 17 Rhagfyr 2008 (UTC)Ateb
Dwi'n cymeryd na chafodd y rhest uchod eu rhoi ar Wici? Piti. Mi fyddai wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr, a llwyfan gwell i'r lluniau. Llywelyn2000 15:00, 13 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Efallai dylai un ohonom ni sgwennu neges e-bost at Paul i ofyn be sy'n digwydd? Os ydy'r delweddau ar gael i'w defnyddio yma medrem ni ein hunain fynd ati i wneud hynny. Anatiomaros 16:31, 13 Chwefror 2009 (UTC)Ateb
Helo bawb. Fel soniais uchod wnaeth y person a fu'n ychwanegu'r delweddau ar ran y Llyfrgell orffen y gwaith peilot hwn ym mis Awst. Swn i'n annog aelodau Wicipedia yn gryf i ychwanegu'r delweddau hyn (o gasgliad John Thomas) - a rydym yn hapus i ateb cwestiynau ar hyn! Paul Bevan 14:29, 2 Mawrth 2009 (UTC)Ateb
@Paul. Rwy't yn dweud; "Swn i'n annog aelodau Wicipedia yn gryf i ychwanegu'r delweddau hyn (o gasgliad John Thomas)"
A'i dweud wyt ti bod hawl gyda ni i fynd at y casgliad a chopio unrhyw un o'r delweddau arestwyd uchod a'i llwytho nhw yma ein hunain? Oes hawl gyda ni i gopio un rhyw lun o'r casgliad felly? Yn ddelfrydol, oni dylid cael nodyn ar y wefan yn nodi bod hawl gyda ni i wneud hyn? Er nad oes rheswm gyda fi i feddwl fel arall, ond mewn theori, fe all unrhyw un greu cyfrif yma a honni eu bod yn gweithio i'r Llyfrgel Genedlaethol!?--Ben Bore 15:28, 2 Mawrth 2009 (UTC)Ateb

Trwydded arbennig ar eich cyfer?

golygu

A fyddai o unrhyw ddefnydd i chi i gael trwydded arbennig at eich anghenion chi? Gallem o bosib edrych ar greu trwydded ar gyfer sefydliadau cyhoeddus fel chi sy'n uwchlwytho ac hefyd yn gosod trwydded eu hunain. Un agwedd posib ar drwydded o'r fath fyddai peidio â chyfyngu ar ddatrysiad (resolution) y delweddau, ond yn hytrach gadael y dewis i chi. Rhowch wybod os y byddai hyn o ddefnydd er mwyn i ni allu trafod y posibiliadau ar y Caffi. Lloffiwr 19:07, 10 Awst 2008 (UTC)Ateb

Gwledydd eraill yn carlamu ymlaen....

golygu

Cyrff a gwledydd blaenllaw:

Deutsche Fotothek yn cyfrannu 250,000 o hen ffotograffau
 

A 250k image donation from the German photography archives Deutsche Fotothek is currently being uploaded to Commons.

Ninnau'n gwneud dim.... ond siarad. Llywelyn2000 06:03, 30 Mai 2009 (UTC)Ateb

O'r diwedd - dw i wedi dod o hyd i'r casgliad cyfan yma. Ymlaen! Llywelyn2000 21:09, 1 Awst 2011 (UTC)Ateb