Sgwrs Nodyn:Gwella

Latest comment: 7 o flynyddoedd yn ôl by Adam in topic Dileu

Ydy hi'n syniad da rhoi dyddiad ar y rhybudd hwn? Mae'n addas gwneud hyn ar en oherwydd bydd un o'r miliynnau o ddefnyddwyr rheolaidd yn gwella'r erthygl o fewn y dyddiad. Ond efallai ar cy fydd yr erthygl yn cael ei dileu cyn i rywun gael y cyfle i'w gwella. Glanhawr 13:21, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Rwyn cytuno. Beth os nad yw erthygl yn cael ei glanhau o fewn wythnos? A oes rhaid ei ddileu wedyn? Rhys Thomas 14:01, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Dwi'n credu dylen ni ddefnyddio synwyr cyffredin wrth benderfynu os dylen ni ei dileu neu beidio. Mae'r nodyn hwn wedi mynd ar yr erthygl Llundain sydd yn gynhwysfawr ac felly ddim werth ei dileu er bod angen ei glanhau. Wyt ti'n cytuno? Glanhawr 14:09, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Mae'r dyddiad arno'n otomatig. Does dim rhaid ei newid - gweler yr iaith o dan 'Golygu'. Llywelyn2000 14:19, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb
Fedra i ddim galw'r erthygl fel ag y mae yn gynhwysfawr. A dweud y gwir mae hi'n LLAWN gwallau iaith, yn llawn ffeithiau amheu sydd heb unrhyw fath o ffynonellau ac yn gwbwl annigonol. Drwy ei chlustnodi fel hyn, o leia mi gofia i (pan gaf amser) am ei bodolaeth, a mynd ati i'w gwella. Heb hyn, mi eith efo'r lli... Llywelyn2000 14:19, 10 Ebrill 2009 (UTC)Ateb

Dileu golygu

Os nad oes gwrthwynebiad, dw i am ddileu'r erthyglau / rwts sydd wedi'u tadogi gyda'r Nodyn yma, gan fod digon o gyfle / rhybudd wedi'i roi i'r rheiny sydd wedi eu creu - i'w newid. Mae llawer yn egin rhy fychan: llai na'r dwy baragraff (y lleiafswm) sydd eu hangen. Opsiwn arall ydy blits arnyn nhw am gyfnod o dyweder pythefnos, yn bersonol ond does gen i mo'r amser, ac mae nhw'n eithriadol o fler, fel y maent. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:57, 15 Chwefror 2017 (UTC)Ateb

Rhowch wythnos imi geisio achub rhai ohonynt. —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:51, 26 Chwefror 2017 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "Gwella".