Sgwrs Wicipedia:Wici GLAM
Sylw diweddaraf: 11 o flynyddoedd yn ôl gan Ben Bore ym mhwnc A'r enillydd ydy...
Yr enw GLAM
golyguMae pethau pwysicach i'w hystyried nag enw, ond mae'n bwysig ei gael yn iawn o'r cychwyn. Ddim yn siwr os dylem gadw'r teitl GLAM. Hyd yn oed gyda'r esboniad am beth mae'n sefyll drosto. Dw in ffafrio Partneriaethau Diwyllianol neu debyg. Mae'r dudalen yma hefyd yn un da am resymau dros ( a falle peidio!) ffurfio partneriaethau gyda Wicipedia.--Ben Bore (sgwrs) 15:11, 9 Tachwedd 2012 (UTC)
- Gan nad oeddem wedi trafod bathiad Cymraeg o GLAM, roedd yn haws jest defnyddio'r talfyriad Saesneg, dros dro. Wrth gwrs, mi fydd angen bathu un Cymraeg - un slic, naturiol, ond dros dro - nes ein bod wedi cytuno ar enw Cymraeg, rhaid oedd defnyddio GLAM. Beth am ymestyn a thalfyru dy gynnig "Partneriaethau Diwyllianol" i PAD? Gallwn wedyn ei uno gyda geiriau pwrpsaol fel y codant e.e. PADgyfarfod, PADwici. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:47, 10 Tachwedd 2012 (UTC)
- Hyd yn oed wedyn, os ydy rhywun sy'n anghyfarwydd gyda Wicipedia yn digwydd glanio ar yr Hafan Datblygu, mae peryg na fyddent yn clicio ar ddolen neu dab sy ond yn dweud GLAM/Wici GLAM/PAD/Wici PAD, ac felly mae'n bwysig osgoi acronymau a'r dudalennau blaen. Byddai 'Partneriaeth/Partneriaethau Diwyllianol' cael a chael yn ffitio mewn tab dw i'n meddwl. Wedi dweud hynny, falle tydy 'Partneriaethau Diwyllianol' ddim yn dweud yn glir beth sydd gennym mewn golwg, ac felly un awgrym sy gynna i ydy Partneriathau yda Amgueddfeydd a Chanolfanau Trefadaeth. Dw i ddim yn rhy hapus gyda PACT, gan ei fod hefyd yn enw ar gyfarfodydd rhwng heddlu a cymunedau lleol. Am bach o hwyl gellir rhestru'r geiriau hoffwn eu cynnwys a gosod sialens anagram i bobol!
- Partneriaeth
- Canolfan
- Treftadaeth
- Amgueddfa
- Diwylliant
Ac os dan ni'n desperate
- (Y)
- Wicipedia
- (Cymraeg)
- Hanes
- Llyfrgelloedd
- Orielau
Ewch amdani!
- LLACTOD - wna i nol fy nghot...--Ben Bore (sgwrs) 16:53, 22 Tachwedd 2012 (UTC)
A'r enillydd ydy...
golyguGalerïau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd a Mwy! ydy GLAM'. <<<< Licio hwn --Ben Bore (sgwrs) 09:04, 11 Chwefror 2013 (UTC)
Deunydd ar gyfer astudiaethau cyflwyniadau
golyguAstudiaethau Achos
golyguSyniadau ar gyfer cynnwys cyflwyniadau
- US Glam Wiki - 4 cases studies (sleidiau cyflwyniad yn GLAMwiki2013 yn dangos ystadegau diddorol
- Museus & Wikipedia. Best practices. Difficulties Mae lot o sleidiau da gan yr un cyfrannwr a rhai cysylltiedig ar yr un pwnc.
- Lessons from Wikipedians in Residence