Sgwrs Wicipedia:Wicibrosiect WiciLlên

Latest comment: 4 o flynyddoedd yn ôl by Craigysgafn

@Llywelyn2000: Mae'r Nodyn:Pethau yn wych, diolch! Ond mae'r erthyglau am lyfrau bellach wedi colli'r llythrennau italig a arferai ymddangos yn eu teitlau yn awtomatig gyda'r hen Wybodlen llyfr. Fydd hynny'n rhywbeth a fydd yn digwydd yn yr un modd yn y dyfodol, neu fydd angen i ni fewnosod tagiau "{teitl italig}" yn y cod ar gyfer pob erthygl? Os felly, dw i ddim yn credu bod hynny'n broblem fawr. Craigysgafn (sgwrs) 10:56, 22 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb

Diolch! A dweud y gwir, wnes i ddim sylwi fod y Nodyn italig o fewn yr hen wybodlen! Mi fydd hi'n ddigon hawdd gwneud yr un peth o fewn yr un newydd, ond ddim tan yfory! Diolch yn fawr! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:23, 22 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb
Un neu ddau o broblemau angen eu datrus yn gynta! Efallai mai dy gynnig di yw'r symlaf ({teitl italig}). Llywelyn2000 (sgwrs) 11:36, 22 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb
Mae na 7,417 o erthyglau o lyfrau ar wici'n defnyddio'r wybodlen newydd yma ar hyn o bryd. Mi wna i newid teitl yr erthygl (enw'r llyfr) heno yn italig. Ond mae'r wybodlen yn fwy cymhleth: mae'n gweithio'n iawn i 4,000 o erthyglau, gyda theitl y llyfr yn ymddangos rwan mewn italig bras. Ond dydy'r mynegiad (statement) 'Teitl' (P1476) ddim ar y gweddill ar Wicidata, felly mi fydd hi'n wythnos nesa cyn y caf gyfle i uwchlwytho'r teitlau efo Quick Statements. Dyma un wedi'i wenud: Si Hei Lwli. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:31, 22 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb
Dw i'n gallu gweld y teitlau'n newid ar hyn o bryd! Gwaith da! Diolch. Craigysgafn (sgwrs) 22:42, 22 Tachwedd 2019 (UTC)Ateb
Return to the project page "Wicibrosiect WiciLlên".