Sgwrs Wicipedia:Wicibrosiect Wicipop
Hoffwn i gael rhestr o gategoriau addas ar gyfer erthyglau am artistiaid/bandiau ac ati. Oes gan unrhywun syniadau ar y math o gategoriau byddai'n addas? Mae categoriau ar enwiki yn cynnwys arddull a label. Byddai'n syniad i ddechrau copio rheiny draw fan hyn. Mae Diffiniad yn enghraifft ddefnyddiol - mae'n dangos blwyddyn sefydlu/gorffen a lleoliad. Efallai nad yw lleoliad yn gwbl addas i bob artist gan eu bod yn ffurfio mewn gwahanol lefydd ac yn symud.
Dwi'n credu bod angen llenwi categori Categori:Bandiau Cymraeg (h.y. artist sydd yn canu yn rhannol neu yn gyfangwbl yn Gymraeg). A ddylai'r categori fod yn rhywbeth mwy eglur (mae llawer yn cymysgu rhwng Cymraeg/Cymreig) e.e. "Bandiau iaith Gymraeg"? --Dafyddt (sgwrs) 18:52, 24 Ionawr 2017 (UTC)
- Mae croeso i chi ddefnyddio'r lluniau sydd gen i ar Flickr o wyl Hanner Cant. Yn cynnwys 9Bach, Meic Stephens, Sen Segur, Ty Gwydr ac Eilir Pierce. https://www.flickr.com/photos/nwdls/albums/72157632273964553 --Rhodri ap Dyfrig (sgwrs) 09:50, 1 Chwefror 2017 (UTC)
̈:: dwi newydd lwytho'r lluniau perthnasol i'r comin. Gallwch eu gweld nhw ymaː https://commons.wikimedia.org/w/index.php?search=hanner+cant&title=Special:Search&go=Go&searchToken=5d8qnnqxh13txrq0buikpvo4h --Rhodri ap Dyfrig (sgwrs) 10:03, 1 Chwefror 2017 (UTC)
- O! Bendigedig! Diolch Dyfrig! Dafydd - oes! Dipyn o waith! A gwell ei wneud rwan, yn hytrach na wedyn! Pingia fi os fedra i wneud rhywbeth efo AWB neu law a llygad! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:32, 1 Chwefror 2017 (UTC)
Templad i'w roi?
golyguSgynnoch chi templad i'w roi ar yr erthyglau? Celtica (sgwrs) 10:37, 15 Chwefror 2017 (UTC)
- Jyst ychwanega [[Categori:Prosiect Wicipop]] ar y gwaelod. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:58, 17 Chwefror 2017 (UTC)