Sgwrs modiwl:WikidataIB

Latest comment: 5 o flynyddoedd yn ôl by Llywelyn2000 in topic Cyfieithu

CYN DIWEDDARU - sylwch fod wedi'i ychwanegu yma gan Zola - o fr-wici. Bydd angen ail lwytho cod Zola wedi i chi ddiweddaru. Llywelyn2000 (sgwrs) 05:59, 11 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Cyfieithu golygu

@Dafyddt: - Ti'n cofio sut i newid 'century' i 'canrif' ayb. Pob tro dw i'n newid llinellau 22 - 27 mae'n achosi gwall. Llywelyn2000 (sgwrs) 12:44, 16 Tachwedd 2018 (UTC)Ateb

Credu fod e'n edrych yn iawn ar hyn o bryd? Dwi ddim yn hollol siwr lle fyddai 'canrif' yn ymddangos. Ond mae'n edrych fel mai mond cyfieithu "local i18n" sydd angen a gallai hynny fynd mewn modiwl ar wahan WikidataIB/i18n i'w wneud yn haws. --Dafyddt (sgwrs) 13:03, 16 Tachwedd 2018 (UTC)Ateb
Cymer olwg ar yr wybodlen ar Ilar ac Iwl Cesar (y dyddiad). Mae dy syniad o dynnu'r stwff sydd i'w gyfieithu'n wych - a dylai hynny gael ei wneud ar y gwreidiol, fel fod gan yr holl ieithoedd fodiwl bychan i'w gyfieithu gyda'r prif fodiwl di-iaith ar Meta. A bydd moch yn hedfan! Diolch Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:15, 16 Tachwedd 2018 (UTC)Ateb
Sori, be o'n i'n feddwl oedd fod yna localeiddio yna yn barod, dim ond i ni ei ychwanegu. Dwi wedi diweddaru Modiwl:I18n/complex date fel enghraifft (gall y newidiadau Cymraeg fynd yn ôl i'r modiwl enwiki hefyd, gan fod pob iaith ynddo). Byddai hefyd yn bosib creu Modiwl:WikidataIB/i18n er mwyn cadw y cyfieithiadau ar wahan i rheiny. --Dafyddt (sgwrs) 13:33, 16 Tachwedd 2018 (UTC)Ateb
Wrth gwrs - mae yno'n barod! Do'n i ddim yn sylweddoli diben / pwer Modiwl:I18n/complex date ddwy flynyddoedd yn ol! Diolch Dafydd! Llywelyn2000 (sgwrs) 15:28, 16 Tachwedd 2018 (UTC)Ateb
Nôl i'r dudalen "WikidataIB".