Sheep Dog (ffilm)

ffilm o 1939 wedi’i ffilmio yn Nhreorci

Mae Sheep Dog yn ffilm o 1939 wedi ei leoli yng Nghymru, mae'n ffilm ddogfen o tua chwarter awr o hyd sy'n rhoi cipolwg ar waith y bugail Tom Jones, Treorci.[1]

Tom, Tufty a Scott

Cast golygu

  • Neil Arden - Adroddwr (llais)
  • Tom Jones – Bugail
  • Chip – Ci Tom
  • Guide – Ci Tom
  • Scott – Ci Tom
  • Tufty – Merlyn Tom

Cefndir golygu

Roedd Tom Jones (1901-1984) yn fugail a oedd yn byw yn un o fythynnod Ystradfechan ar yr Hen Fferm, Treorci. Roedd Jones yn cael ei gyflogi gan yr Ocean Coal Company a oedd yn berchen ar y tir uwchben glofa Parc a Dare. Roedd yn cael ei adnabod ledled y byd fel y Wonder Shepherd am ei sgiliau rhyfeddol fel hyfforddwr anifeiliaid sydd, ynghyd â’i bryder am ei braidd, yn cael eu cofnodi yn y ffilm.[2]

Er na chafodd Jones unrhyw hyfforddiant ar sut i hyfforddi cŵn, fe ddysgodd ei gŵn i wneud pethau rhyfeddol megis arwain merlyn gan dal y llinyn ffrwyn yn eu cegau ac i fwydo ŵyn gyda photel. Derbyniodd sawl gwobr am ddyngarwch gan y RSPCA - un ym 1939 am achub 6 oen a gafodd eu trapio ar waelod agen 60 troedfedd ac un arall ym 1982, yn 79 oed, am ddod â mamog a’i oen i ddiogelwch o silff roeddent yn sownd arni hanner ffordd i lawr ochr chwarel serth.[3]

Yn 2011 cyhoeddodd ei ferch, Diana Wilson, cofiant iddo Shepherd of the Hills.[4]

Plot golygu

Mae'r ffilm yn cychwyn trwy gyflwyno Tom ei ferlyn a'i gŵn. Mae'r adroddwr yn egluro pam bod Tom yn gorfod defnyddio merlyn i fugeilio yn hytrach na gwneud y gwaith ar droed fel bugeiliaid arferol. Mae'r tir mae o'n bugeilio yn fawr iawn, mae ganddo braidd o 2,000 dafad ar dros 30 milltir sgwâr o dir mynyddig iawn. Mae rhai o'r darnau mynyddig yn rhy beryglus i ddyn eu dringo, ond mae coesau sicr y merlyn mynydd Cymreig yn gallu eu tramwyo yn ddiogel. Mae Tom yn dod o hyd i famog sy'n cael trafferth esgor. Mae'r famog yr ochor arall i gors wlyb. Pe bai'r ferlyn yn ceisio tramwyo'r gors byddai perygl i'w garnau suddo i'r gwlypdir. Mae Tom yn rhoi ffrwyn Tufty yng ngheg Scott ac mae'r ci'n arwain y ferlyn ar daith o dros filltir o amgylch y gors i gael eu haduno a'u meistr. Mae Guide yn tynnu sylw Tom at famog sy'n galaru dros ei hoen marw. Mae Tom yn cael un o efeilliaid mamog arall i'r famog alarus cael ei fabwysiadu. Mae'r famog yn ymwrthod a'r oen mabwysiedig hyd i Tom blingo'r oen marw a gwisgo'r oen magu efo'r croen. Mae Tom yn cael hyd i ran o'i braidd ar gopa sydd dan eira sy'n cuddio'r borfa. Trwy ddefnyddio gwahanol chwibanau mae Tom yn cael ei dri chi i yrru'r defaid ar daith hir at borfa well. Mae Tom wedyn yn canfod oen sydd a'i fam wedi marw. Mae'n rhoi'r oen mewn cwtsh o garreg ac yn dychwelyd adref i nôl llaeth i'r oen amddifad, gyda Scott yn gyd farchogaeth ar gefn Tufty. Wedi rhoi'r llaeth mewn potel babi, mae Scott yn dychwelyd at yr oen amddifad ac yn ei fwydo o'r botel. Tra bod Tom yn cysgu mae'n cael ei ddeffro gan sŵn ei braidd mewn braw. Mae llwynog ar eu hol. Mae Tom a'r cŵn y brysio at y praidd, mae Chip a Guide yn corlannu'r llwynog ac yn ei yrru at fan lle mae Tom yn aros gyda'i gwn i'w saethu, ond nid cyn i'r llwynog lladd naw mamog a'u hwyn. Mae Tom yn dod o hyd i famog ac oen sydd wedi syrthio oddi ar silff o garreg i fan lle nad oes modd iddynt ddod yn rhydd ohono. Mae Tom yn dringo i lawr y dibyn, yn gafael yn yr anifeiliaid gan ddringo yn ôl i fyny'r graig yn eu cario, dyma ddigwyddiad olaf y ffilm.

Nodiadau golygu

Cyfeiriadau golygu