Sherpa
Mae'r Sherpa yn grŵp ethnig o un o rannau uchaf a mwyaf mynyddig Nepal, yn byw yn uchel yn yr Himalaya. Mewn Tibeteg, mae shar yn golygu "Dwyrain" a pa yn dynodi "pobl". Mewnfudodd y Sherpa i Nepal o ddwyrain Tibet o fewn y 500 mlynedd diwethaf.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Poblogaeth | 520 |
Crefydd | Bwdhaeth dibetaidd |
Gwladwriaeth | Nepal, Gweriniaeth Pobl Tsieina, India, Bhwtan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r rhan fwyaf o'r Sherpa yn byw yn nwyrain Nepal: yn Solu, Khumbu a Pharak, er bod rhai yn byw ymhellach i'r gorllewin yn nyffryn Rolwaling ac yn ardal Helambu i'r gogledd o Kathmandu. Pangboche yw pentref hynaf y Sherpa yn Nepal. Mae iaith yn Sherpa yn bur debyg i dafodiaith o'r iaith Dibeteg. Yn ôl canlyniad Cyfrifiad 2001 yn Nepal, roedd 154,622 o'r Sherpa yn y wlad, 92.83% yn ddilynwyr Bwdhaeth, 6.26% yn ddilynwyr Hindwaeth, 0.63% yn Gristionogion a 0.20% yn ddilynwyr crefydd Bön.
Yn draddodiadol, mae llawer o enwau'r dynion ymysg y Sherpa yn dod o'r diwrnod o'r wythnos pan aned hwy:
Cymraeg | Sherpa |
---|---|
Dydd Sul | Ngi`ma |
Dydd Llun | Dawa |
Dydd Mawrth | Mingma |
Dydd Mercher | Lhakpa |
Dydd Iau | Phurba |
Dydd Gwener | Pasang |
Dydd Sadwrn | Pemba |
Daeth y Sherpa i enwogrwydd yn gynnar yn hanes mynydda yn yr Himalaya. Credir fod eu hysgyfaint yn eu galluogi i berfformio'n well yn uchel yn y mynyddoedd na grwpiau eraill. Defnyddir y term 'sherpa' (gyda s bach) hefyd i ddynodi pobl leol a gyflogir i gynorthwyo mynyddwyr yn yr Himalyaya. Nid yw sherpa yn yr ystyr yma o anghenraid yn aelod o grŵp ethnig y Sherpa.
Y Sherpa enwocaf oedd Tenzing Norgay, a ddringodd Everest gyda Edmund Hillary am y tro cyntaf yn 1953. Yn ddiweddar, mae dau Sherpa, Pemba Dorjie a Lhakpa Gelu, wedi bod yn cystadlu i weld pwy allai ddringo Everest gyflymaf. Ar 23 Mai 2003 cyrhaeddodd Dorjie y copa mewn 12 awr a 46 munud. Tri diwrnod yn ddiweddarach, gwnaeth Gelu yr un peth mewn 10 awr 46 munud. Ar 21 Mai 2004 cyrhaeddodd Dorjie y copa mewn 8 awr a 10 munud. Ar 19 Mai 2006, dringodd Appa Sherpa Everest am yr 16eg tro, y nifer mwyaf gan un person.