Shinzō Abe

Gwleidydd o Japan a dwywaith yn Brif Weinidog
(Ailgyfeiriad o Shinzo Abe)

Gwleidydd o Japan oedd Shinzo Abe (Japaneg: 安倍 晋三, [abe ɕinzoː]; 21 Medi 19548 Gorffennaf 2022). Roedd yn Brif Weinidog Japan o 26 Medi 2006 i 26 Medi 2007 ac o 26 Rhagfyr 2012 i 16 Medi 2020.

Shinzō Abe
Ganwyd21 Medi 1954 Edit this on Wikidata
Shinjuku Edit this on Wikidata
Bu farw8 Gorffennaf 2022 Edit this on Wikidata
o anaf balistig, gwaediad Edit this on Wikidata
Ysbyty Prifysgol Feddygol Nara Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Seikei
  • USC Sol Price School of Public Policy
  • Seikei Elementary School
  • Seikei Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Japan, Prif Ysgrifennydd y Cabinet, Prif Weinidog Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan, President of the Liberal Democratic Party, aelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Kakogawa Steel Works
  • Kobe Steel Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSolidarity Against the North Korean Threat, Towards a Beautiful Nation Edit this on Wikidata
Taldra175 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadShintarō Abe Edit this on Wikidata
MamYōko Abe Edit this on Wikidata
PriodAkie Abe Edit this on Wikidata
PerthnasauKan Abe, Nobusuke Kishi, Ichirō Satō, Eisaku Satō, Nobuhiro Satō, Ōshima Yoshimasa, Abe Shintarō, Nobukazu Kishi, Satō Shinji, Masao Nishimura Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Urdd Abdulaziz al Saud, Grand Cross of the Order of Honour, Grand Cross of the Ivorian Order of Merit, Uwch Groes Urdd y Orange-Nassau, Knight Grand Officer of the Order of Merit, Order of Al-Khalifa, Best Dressed Award Political and Economic Category, Best Dressed Award Political and Economic Category, Gwobr Time 100, Gwobr Time 100, doctor honoris causa, honorary doctor of the Jawaharlal Nehru University, Medal of the Oriental Republic of Uruguay, Urdd Sikatuna, Asian of the Year, Herman Kahn Award, honorary doctor of the Turkmen State University, Prif Gadlywydd Lleng Teilyngdod, Padma Vibhushan in Public Affairs, Urdd Aur yr Olympiad, Lleng Teilyngdod, Padma Vibhushan, Order of Bahrain, doctor honoris causa, Junior First Rank, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Collar of the Supreme Order of the Chrysanthemum, Order of Merit, Order of Honour, Urdd Isabel la Católica, Urdd Oranje-Nassau, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd Coron y Dderwen, Olympic Order, Urdd Gwladwriaeth Serbia, Urdd Croes y De, Urdd Cenedlaethol er Anrhydedd, Global Citizen Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.s-abe.or.jp/ Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd Abe i deulu gwleidyddol; Nobusuke Kishi, Prif Weinidog Japan o 1957 i 1960, oedd ei daid ar ochr ei fam. Astudiodd gwyddor gwleidyddiaeth yn Japan; astudiodd hefyd yn yr Unol Daleithiau. Gweithiodd yn y sector breifat tan 1982 pan ddechreuodd ei swydd llywodraethol gyntaf. Daeth i mewn i wleidyddiaeth yn 1993 pan enillodd etholiad yn Nhalaith Yamaguchi. Gwasanaethodd o dan Brif Weinidogion Yoshiro Mori a Junichiro Koizumi, a daeth yn Brif Ysgrifennydd Cabinet Koizumi.

Fe'i hetholwyd yn brif weinidog gan sesiwn arbennig o'r Diet ar 26 Medi 2006. Ef oedd prif weinidog ieuengaf Japan ers yr Ail Ryfel Byd, a'r un cyntaf i'w eni ar ôl y rhyfel. Ymddiswyddodd yn sydyn ar 12 Medi 2007 yn dilyn misoedd o bwysau gwleidyddol.[1] Cafodd ei olynu gan Yasuo Fukuda, 91ain Prif Weinidog Japan.[2] Etholwyd Abe am yr ail dro ar 26 Rhagfyr 2012. Ymddiswyddodd o achos ei iechyd ar 16 Medi 2020.

Daeth Abe yn enwog am ei safbwynt cryf yn erbyn Gogledd Corea, wnaeth arwain at lywyddiaeth Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol, y blaid lywodraethol, a swydd y Prif Weinidog. Disgwylwyd i Abe ddilyn polisïau economaidd ei ragflaenydd, a hefyd i wella'r cysylltiadau tyn gyda Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Ar 8 Gorffennaf 2022, saethwyd Abe ddwywaith wrth draddodi araith ymgyrchu ger Gorsaf Yamato-Saidaiji yn Nara.[3] Fe'i gludwyd i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Japanese prime minister resigns. BBC (12 Medi 2007).
  2. (Saesneg) Fukuda installed as Japanese PM. BBC (25 Medi, 2007).
  3. "Man taken into custody after former Japanese PM Abe Shinzo collapses". NHK World (yn Saesneg). 8 Gorffennaf 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2022.
  4. Shinzo Abe, Japan’s former prime minister, dies after being shot (en) , theguardian.com, 8 Gorffennaf 2022.

Dolenni allanol golygu