Mae'r erthygl hwn yn sôn am y ffigwr mytholegol Albanaidd. Gweler William Douglas, Barwn Douglas 1af Kirtleside, ar gyfer Marsial yr Awyrlu Brenhinol.

Hynafiad mytholegol Tŷ Douglas oedd Sholto Douglas, teulu pwerus a rhyfelgar yr Alban canoloesol. Fe ddigwyddodd brwydr mytholegol yn 767, rhwng y brenin Solvathius, brenin cyfiawn yr Alban a'r ymhonnwr Donald Bane. Bu bron i Donald fod yn fuddugol pan drawyd ef gan ŵr bonheddig, a oedd yn diystyru i weld achos drwg yn llwyddo, gan droi canlyniad y frwydr. Pan holodd y brenin ynglŷn â'r marchog, a oedd wedi gwasanaethu mor dda, fe waeddodd rhywyn "Sholto du glasse!" ... "Wele, y dyn du lwyd!".[1].

Nid oes unrhyw gofnodion yn yr Alban yn cynddyddio William de Douglas, a welodd y cymeriad yn 1174, a gall fod yn blentyn i Freskin y Fleming, hynafiad Tŷ Moray ac o Glan Sutherland. Er, mae teulu yn yr Eidal gyda'r enw Douglas-Scotti, honnir i'w hynafiad hwy fod yn fab i Sholto, ac ei fod wedi gwasanaethu gyda Charlemagne pan anheddodd yn Piacenza yn hwyr yn yr 8g.

Cyfeiriadau

golygu
  1. David Hume o Godscroft (Caeredin 1646). Ane Historie of the House and Race of Douglas and Angus
  • Herbert Maxwell, A History of the House of Douglas, cyf.1 (Llundain, 1902)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato