Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain, yr Eidal, yw Piacenza (Lladin a Hen Saesneg: Placentia, ac yn nhafodiaith leol Emiliano-Romagnolo: Piasëinsa), sy'n brifddinas talaith Piacenza yn rhanbarth Emilia-Romagna.

Piacenza
Mathcymuned, dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth102,465 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Plasencia, Erfurt, Tolyatti, Placentia, Potenza Edit this on Wikidata
NawddsantAntoninus o Piacenza Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Piacenza Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd118.24 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr61 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCalendasco, Caorso, Corno Giovine, Gossolengo, Gragnano Trebbiense, Podenzano, Pontenure, Rottofreno, San Rocco al Porto, Santo Stefano Lodigiano, Caselle Landi, Polesine Parmense Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.05°N 9.7°E Edit this on Wikidata
Cod post29121–29122 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 100,311.[1]

Hanes hynafol

golygu

Cyn cael ei chyfaneddu gan y Rhufeinwyr, roedd yr ardal yn gartref i lwythi Celtaidd a Ligurian. Roedd yr Etrwsgiaid yn adnabyddus am ddewina perfedd defaid. Darganfyddwyd cerflun efydd o iau, "Iau Piacenza", ger Piacenza yn 1877, roedd enwau'r ardal wedi eu marcio arni, ac phob un wedi ei neulltuo i amryw o dduwiau. Mae hefyd wedi cael ei chysyllu â arfer Haruspex. Sefydlwyd Piacenza yn 218 CC (yn ôl traddodiad, ar 31 Mai), hon oedd y cyntaf o sawl gwladfa milwrol Rhufeinig, er hen enw oedd Placentia yn Lladin a Saesneg.

Anfonwyd 6,000 o wladwyr Lladin i Placentia a gwladfa Cremona gerllaw, yn arbennig aelodau o'r dosbarth Marchogol Rhufain. Enillodd Hannibal Brwydr Trebbia yn ardal Piacenza yr un flwyddyn a sefydliad y ddinas, ond fe wrthsafodd y ddinas fyddinoedd Punic. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, fe ddraenwyd tir y ddinas, ac adeiladwyd porthladd ar yr Afon Po. Ffynnodd Placentia fel conolfan cynhyrchu graen, barlys, miled, a gwlan. Er iddi gael ei anrheithio a'i dinistrio sawl gwaith, adferwyd y ddinas pob tro. Gelwodd Procopius hi'n Urbs Aemilia Princeps, "Tywysoges dinasoedd Via Aemilia", gan olygu "dinas gyntaf Via Aemilia", yn y 6g.

Roedd yr oes hen fyd hwyr, tua 300-700/800, yn Piacenza yn nodwediadol am ehangiad Cristnogaeth, a phresenoldeb sawl merthyr. Roedd y nawddsant presennol, Antoninus, yn gyn-lengwr a drodd yr holl ardal yn Gristnogol, a gafodd ei ladd yn ystod teyrnasiad Diocletian.

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 14 Tachwedd 2022

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato