Shoshone y Gogledd
Un o bedwar llwyth y Shoshone yw Shoshone y Gogledd sy'n tarddu o Wastadedd Afon Snake yn ne Idaho a gogledd-ddwyrain y Basn Mawr lle mae Idaho, Wyoming ac Utah yn cwrdd. Mae'r bobl yn gysylltiedig yn ddiwylliannol â phobl Bannock ac maent yn nosbarthiad y Basn Mawr o Frodorion.
Map o diroedd traddodiadol y Shoshone y Gogledd | |
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | llwyth |
Rhan o | Y Bobl Shoshone |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Iaith
golyguMae Shoshone y Gogledd yn un o dafodieithau'r Shoshone, iaith Nwmig Ganol, ac un o deulu'r Ieithoedd Uto-Astecaidd. Fe'i siaredir yn bennaf ar neilldiroedd indiaidd Fort Hall ac Wind River yn Idaho a Wyoming, yn y drefn honno.
Grwpiau
golyguEnwyd grwpiau o bobl Shoshone gan eu lleoliad daearyddol ac am eu prif ffynonellau bwyd.
Llwythau a neilldiroedd
golyguMae gan y Shoshone y Gogledd bobl sy'n aelodau o dri llwyth a gydnabyddir yn ffederal yn Idaho ac Utah:
- Neilldir Indiaidd Duck Valley, Idaho, ar gyfer Llwyth Western Shoshone-Northern Paiute
- Llwythau Shoshone-Bannock yn Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho, 544,000 erw (2,201 km²) yn Idaho. Lemhi Shoshone gyda Phobl Bannock, disgynyddion y Paiute y maent wedi uno ag ef.
- Neilldir Indiaidd Lemhi (1875-1907) yn Idaho. Caewyd yr neilldir hwn a symudodd y bobl i Neilldir Indiaidd Fort Hall, Idaho, lle maen nhw'n cael eu cyfrif gyda phobloedd Shoshone-Bannock.
- Grwp Gogledd-orllewinol Cenedl Shoshone