Carreg glai
(Ailgyfeiriad o Siâl)
Carreg waddod yw carreg glai neu siâl (o'r gair Saesneg: shale), a gyfansoddir o laid sy'n gymysgiad o ddarnau o fwynau clai a darnau mân iawn o fwynau eraill, yn enwedig craig risial (cwarts) a chalseit. Nodweddir carreg glai gan holltiau ar hyd haenau cyfochrog tenau o drwch o lai nag un centimeter, a elwir yn holltiaeth (fissility). Mae cerrig llaid ar y llaw arall o gyfansoddiad cyffelyb ond heb fod o'r un holltiaeth. Dyma'r garreg waddod fwyaf cyffredin.
Math | craig glastig, schist gwaddodol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gweler hefyd
golygu- Cawg Caergwrle. Powlen gynhanesyddol unigryw a wnaed o garreg glai.
- Nod Glas