Cawg Caergwrle

powlen o'r Oes Efydd a ddarganfuwyd yng Nghaergwrle

Cawg neu bowlen o Oes yr Efydd yw Cawg Caergwrle, a ddarganfuwyd ger Caergwrle, Sir y Fflint, yn 1823 gan weithiwr a oedd yn torri ffos wrth ymyl Castell Caergwrle.[1] Credir gan archaeolegwyr fod y bowlen carreg glai hon, a addurnir â dail aur, yn cynrychioli cwch cynhanesyddol. Fe'i ystyrir yn wrthrych unigryw.[2] Mae ar gadw yn Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Cawg Caergwrle
Enghraifft o'r canlynoldysgl Edit this on Wikidata
LleoliadAmgueddfa Werin Cymru Edit this on Wikidata
Map
Cawg Caergwrle

Disgrifiad

golygu

Cawg neu bowlen o ddeunydd carreg glai (sial) yw Cawg Caergwrle. Fe'i addurnir mewn aur. Credir ei fod yn fodel llong offrymol; cafodd ei ddarganfod mewn cors a fuasai'n llyn yn Oes yr Efydd.[2]

Mae'r llestr o siap hirgron. Ar ei gwaelod ceir cyfres o linellau igam-ogam; credir eu bod yn cynrychioli tonnau, efallai. Ar un pen o'r llestr ceir pâr o gylchoedd sy'n cynrychioli llygaid efallai; ceir sawl enghraifft o lygaid yn addurno pen blaen llongau. Tua canol y llestr ceir cyfres o linellau sy'n cynrychioli rhwyfau, o bosibl. O amgylch y top ceir addurniad mewn aur sy'n awgrymu tarianau.[2]

Damcaniaethau

golygu

Ceir sawl damcaniaeth am darddiad, oed a phwrpas Cawg Caergwrle. Awgrymodd un archaeolegydd ei fod yn cynrychioli un o longau gwareiddiad Tartessos yn ne Iberia, llongau a oeddynt yn eu tro yn seiliedig ar longau'r Ffeniciaid; gwyddys yr oedd morwyr Tartessa yn masnachu ym Mhrydain a gogledd-orllewin Ewrop ar ddiwedd Oes yr Efydd (tua 900-600 CC).[2]

Yn fwy diweddar, awgrymwyd cysylltiad ag Iwerddon gan fod yr aur yn tarddu o'r ynys honno; damcaniaethir mai masnachwyr o Iwerddon a offrymodd y cawg i'r duwiau.[3]

Ail-gadw

golygu

Gwnaeth staff Amgueddfa Cymru waith ail—gadw ar y llestr yn ddiweddar.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 'Ail-gadw bowlen Caergwrle'[dolen farw] ar wefan Amgueddfa Cymru.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 H. N. Savory, Guide Catalogue of the Bronze Age Collections (Caerdydd, 1980).
  3. 'Hanes Cymru a'r Môr, S4C.

Dolenni allanol

golygu